Ysgol Gyfun Garth Olwg

ysgol Gymraeg ym Mhentre'r Eglwys, Rhondda Cynon taf

Ysgol Gyfun Gymraeg yw Ysgol Gyfun Garth Olwg (Enw gwreiddiol: Ysgol Gyfun Rhydfelen), sydd wedi ei lleoli ym Mhentre'r Eglwys ger Pontypridd yn Rhondda Cynon Taf. Hon yw'r ysgol Gymraeg hynaf yn yr ardal a'r trydydd Ysgol Uwchradd Gymraeg yng Nghymru wedi iddi gael ei sefydlu yn 1962 o dan enw Ysgol Gyfun Rhydfelen.

Ysgol Gyfun Garth Olwg
Arwyddair Deuparth ffordd eu gwybod
Sefydlwyd 1962 - Ysgol Gyfun Rhydfelen
2006 - Ysgol Gyfun Garth Olwg
Math Cyfun, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Cymraeg
Pennaeth Ms T. Ann Morris
Dirprwy Bennaeth Matthew Evans
Sylfaenydd Gwilym Humphreys
Lleoliad Y Brif Ffordd, Pentre'r Eglwys, Rhondda Cynon Taf, Cymru, CF38 1DX
AALl Rhondda Cynon Taf
Disgyblion 930+
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 11–18
Llysoedd 6
Lliwiau Du a gwyrdd
Cyhoeddiad Bytholwyrdd
Gwefan http://www.gartholwg.co.uk/

Symudwyd yr ysgol o bentref Rhydyfelin i adeilad newydd ym Mhentre'r Eglwys ym mis Medi 2006 ar Gampws Cymunedol Gartholwg. Mae'r dadlau yn parhau ynglŷn â'i hail-enwi'n 'Ysgol Gyfun Garth Olwg' ac er yn groes i ddymuniadau mwyafrif y rhieni, disgyblion ac athrawon, penderfynwyd newid yr enw o Ysgol Gyfun Rhydfelen.[1][2]

Roedd yr hen adeilad mewn cyflwr gwael pan ddymchwelwyd ef, adeiladwyd rhan o'r ysgol ar frys fel lleoliad dros-dro i hyfforddi cyn-filwyr y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1917.[3]

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.