Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig

ysgol uwchradd yn Aberystwyth, Ceredigion

Ysgol uwchradd gyfun gymunedol cyfrwng Cymraeg yn nhref glan-môr Aberystwyth yw Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig ac fe'i henwyd ar ôl yr hen gantref o'r un enw (Penweddig). Sefydlwyd yr ysgol yn 1973[3] fel ysgol ddwyieithog i blant gogledd Sir Ceredigion, ond ysgol Gymraeg yw hi bellach. Noda Prospectws yr ysgol mai'r 'Gymraeg yw iaith bob dydd yr ysgol a hi hefyd yw cyfrwng y rhan fwyaf o’r gwersi. Mae cynnal Cymreictod o fewn yr ysgol, y gymuned leol a thu hwnt yn rhan ganolog o waith yr ysgol.' Nodir hefyd fod gwaith dyngarol yn elfen amlwg o waith a thraddodiad yr ysgol.[4] Mae gan yr ysgol tua 600 o ddisgyblion ar y gofrestr.

Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig
Mathysgol, ysgol ddwyieithog Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1973 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadLlangawsai Edit this on Wikidata
SirAberystwyth, Ceredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.41°N 4.07°W Edit this on Wikidata
Cod postSY23 3QN Edit this on Wikidata
Map
Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig
Sefydlwyd 1973
Math Ysgol Gyfun Gymunedol[1]
Cyfrwng iaith Cymraeg
Lleoliad Ffordd Llanbadarn, Aberystwyth, Ceredigion, Cymru, SY23 3QN
AALl Cyngor Sir Ceredigion
Disgyblion tua 660 (2005)[2]
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 11–18
Lliwiau Du
Gwefan penweddig.ceredigion.sch.uk/cy/

Mae canlyniadau arholiadau allanol, ar bob lefel, yn sylweddol uwch na chanlyniadau cyfartalog Cymru ac mae'r ysgol ymhlith yr ugain ysgol orau yng Nghymru. Mae bron traean o’r disgyblion yn derbyn gwersi offerynnol neu leisiol a cheir adnoddau da, gyda 7 labordy a 7 gweithdy celf a dylunio a thechnoleg.[5]

Penaethiaid golygu

Gerald Morgan (1973-1989)

Arwel George (1989-2009)

Gwenallt Llwyd Ifan (2009-2018)

Dr Rhodri Thomas (2020-2022)

Adeiladau golygu

Adeiladwyd drwy ddull Menter Cyllid Preifat (PFI) gan gwmni Atkins. Nhw sy'n berchen ar adeilad yr ysgol, ac mae'n cael ei logi i'r Cyngor Sir i'w ddefnyddio fel ysgol.

Agorodd yr ysgol mewn hen adeilad ar Ffordd Dewi, Aberystwyth, adeilad roedd y cyngor yn berchen arno. Ym mis Hydref 2001 symudwyd yr ysgol i'w chartref presennol ar Ffordd Llanbadarn.

Gwerthoedd golygu

  • Parchu eich hunain ac eraill
  • Parchu eiddo ac amgylchedd
  • Parchu'r ysgol
  • Defnyddio'r iaith Gymraeg hyd eithaf eich gallu.
  • Parchu rygbi

Cyn-ddisgyblion nodedig golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan yr ysgol; Archifwyd 2017-04-22 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 27 Chwefror 2017.
  2.  Adroddiad arolygiad Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig. Estyn (2005).
  3.  Blaenair gan y prifathro (Saesneg). Ysgol Gyfun Penweddig.
  4. Prospectws yr ysgol; Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 20 Mawrth 2015
  5. Arlowg 2005; dyfynnwyd ym Mhrospectws yr ysgol: “Mae adnoddau da ar gyfer pob pwnc. Gwna’r disgyblion ddefnydd da iawn o’r ganolfan adnoddau, lle mae stoc dda iawn o lyfrau. Mae ansawdd yr adeiladau’n rhagorol.”; adalwyd 20 Mawrth 2015
  6.  Aled Haydn Jones' Biography. BBC Wales.
  7. "Proffil Georgia Ruth Williams". Facebook.
  8. Edwards, Efa (Rhagfyr 2008). "AGI! AGI! AGI!". Y Tincer Rhif 314: 1. https://www.trefeurig.org/uploads/ytincerrhagfyr314.pdf. Adalwyd 2019-03-28.
  9. "Film and TV stars band together to support Arts Centre". Cambrian News (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-06-26. Cyrchwyd 2019-10-08.
  10. Schiavone, Owain (Mawrth 2009). "CARLAMU I'R BRIG". Y Selar Rhifyn 17: 4, 5. https://issuu.com/y_selar/docs/yselarmawrth09/4.

Dolenni allanol golygu