Ysgol Gyfun Sant Cyres

Ysgol uwchradd gyfun cyfrwng Saesneg ym Mhenarth, Bro Morgannwg ydy Ysgol Gyfun Sant Cyres (Saesneg: St Cyres Comprehesive School).

Ysgol Gyfun Sant Cyres
St Cyres Comprehensive School
Arwyddair Strive Together, Challenge Yourself, Realise Everyone can Succeed
Ystyr yr arwyddair Ymdrechu Ynghyd, Heriwch eich Hunain, Sylweddolwch gall Bawb Lwyddo
Sefydlwyd 1958
Math Cyfun, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Saesneg
Pennaeth Mr Brian P Lightman
Cadeirydd Mrs A Males OBE
Arbenigedd Sefydliad yn Rhaglen Diploma Bagloriaeth Rhyngwladol
Lleoliad Clos Sant Cyres, Penarth, Bro Morgannwg, Cymru, CF64 2XP
AALl Bro Morgannwg
Staff tua 130
Disgyblion 1,479
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 11–18
Lliwiau Coch a du
Gwefan stcyres.valeofglamorgan.sch.uk

Ar y funud, mae gan yr ysgol 1,479 o ddisgyblion rhwng 11 ac 18 oed gan gynnwys 251 yn y chwechedd ddosbarth, Mae'r ysgol wedi ei rannu rhwn dwy safle yn bresennol, gyda tua 1,100 o ddisgyblion ym mlynyddoedd 7 i 13 yn y brif safle ar gyrion tref Penarth, ac adeilad arll rhyw 2.5 milltir i ffwrdd yn Ninas Powys sy'n gartref i rhwng 300 a 400 o ddisgyblion blynyddoedd 7 i 9.[1]

Bydd y prifathro presennol Mr Brian P Lightman yn gadael yr ysgol ym mis Medi 2010, wedi blwyddyn mewn secondiad i ddod yn ysgrifennydd cyffredinol yr ASCL (Association of School and College Leaders), yn cynyrchioli dros 14,000 o aelodau.[2]

Hanes golygu

Sefydlwyd yr ysgol ym 1958, Ysgol Uwchradd Fodern Sant Cyres (St Cyres Secondary Modern School) oedd enw'r ysgol yn wreiddiol, cyn iddi gael ei throi'n ysgol gyfun.

Bagloriaeth Cymru golygu

Roedd Ysgol Gyfun Sant Cyres yn un o ddau ganolfan peilot ar gyfer Bagloriaeth Cymru yn 2005/2006, ynghyd ag Coleg Llandrillo Cymru. Bu tua 400 o ddisgyblion yn cymryd rhan yn y peilot yn Llandrillo.[3]

Talgylch yr ysgol golygu

Y prif ysgolion yn nhalgylch Sant Cyres ydy Ysgol Gynradd Llandough, Ysgol Gynradd Sirol Fairfield, Ysgol Gynradd Cogan ac ysgolion cynradd Dinas Powys. Daw 20% o'r disgyblion o du allan i dalgylch yr ysgol yn l dewis y rhieni.

Bathodyn yr ysgol golygu

Mae arfbais yr ysgol yn chwarteri gyda symbol wahanol ym mhob chwarter:

Cyn-ddisgyblion o nôd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. (Hydref 2009) Gam yn nes at un safle ar gyfer ysgol, Rhifyn 25. Llais y FroURL
  2.  Darren Evans (16 Ionawr 2010). Profile Cymru: The quiet confidence and commitment that persuaded a union to see the Lightman. TES Cymru.
  3.  Y Pwyllgor Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau. Cynulliad Cenedlaethol Cymru (18 Hydref 2006).

Dolenni allanol golygu