Ysgol Uwchradd Bodedern

Ysgol ddwyieithog Cymraeg a Saesneg ar Ynys Môn yw Ysgol Uwchradd Bodedern a leolir ym Modedern yng nghanol cymuned Bro Alaw.[1] Sefydlwyd yr ysgol yn 1977.

Ysgol Uwchradd Bodedern
Sefydlwyd 1977
Math Cyfun, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Dwyieithog, Cymraeg a Saesneg
Pennaeth Mr Paul Matthews-Jones
Dirprwy Bennaeth Mrs Rowenna Saunderson
Lleoliad Bodedern, Ynys Môn, Cymru, LL65 3SU
Disgyblion Dros 600 (2018)
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 11–18
Gwefan ysgoluwchraddbodedern.org.uk

Prifathro presennol yr ysgol yw Paul Matthews-Jones a'r Dirprwy bennaethiaid yw Rowena Lloyd Saunderson a Sion Lloyd.[2]

Caiff penaethiad blynyddoedd eu penodi bob 5 mlynedd. Mae yna llawer o chwaraeon yn yr ysgol a cheir 56 ystafelloedd dosbarth. Rhennir pob blwyddyn i 6 o ddosbarthiadau cofrestru sef Alaw, Branwen, Ceinwen, Dwynwen, Edwen a Ffraw.

Mae yna 6 gwers y dydd a 30 gwers yr wythnos ac maen nhw yn parhau am 50 munud yr un. Enillodd yr ysgol wobr y Daily Post ym 2014 am fod yr Ysgol Uwchradd gorau yng Ngogledd Cymru.[angen ffynhonnell]

Dathlwyd ei phen-blwydd yn bedwar deg mlwydd oed ym Medi 2017 a chrëwyd sioeau o'r enw 'O No Ffor 0' ac 'Y Ddraig a chollodd ei Brath' fel rhan o'r dathliadau.

Bro Alaw, Ysgol Uwchradd Bodedern

Yn 2018 roedd tua 650 o ddsgyblion yn yr ysgol.

Y Gymraeg golygu

Daw 58% o'r disgyblion o gartrefi Cymraeg eu hiaith, ond dywedir y gallai 86% o'r disgyblion siarad yr iaith i safon iaith gyntaf.[3]

Cyn ddisgyblion golygu

Ysgolion cynradd yn nhalgylch yr ysgol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1.  Ysgol Uwchradd Bodedern. Cyngor Sir Ynys Môn.
  2. ysgoluwchraddbodedern.org; adalwyd 3 Rhagfyr 2022
  3.  Adroddiad Ysgol Uwchradd Bodedern. Estyn (Mawrth 2004).

Dolen allanol golygu