Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth


Ysgol gyfun cyfrwng Saesneg yng Nghaerfyrddin yw Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth. (Saesneg: Queen Elizabeth High School).

Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth
Queen Elizabeth High School
Arwyddair Ymlaen Gyda'n Gilydd
Sefydlwyd 2005
Math Cyfun, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Saesneg
Pennaeth Mr P Spencer
Dirprwy Bennaeth Mr. Alan Carter
Cadeirydd Mr. Christopher Delaney
Lleoliad Heol Llansteffan, Tre Ioan, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA31 3NL
AALl Cyngor Sir Gaerfyrddin
Disgyblion tua 1600
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 11–18
Llysoedd Cothi, Deveraux, Gwili, Tywi
Lliwiau      Coch,      Glas
(Coch a du ar gyfer y chweched dosbarth)
Gwefan http://www.qehs.carms.sch.uk

Hanes golygu

Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth yw'r unig ysgol uwchradd o fewn ardal drefol Caerfyrddin ac eithrio Ysgol Gyfun Bro Myrddin. Roedd yna arfer fod dwy ysgol, Ysgol Cambria ac Ysgol Ystrad Tywi. Er y bu'r ddwy ysgol yn gwasanaethu tua'r un ardaloedd addysg uwchradd cyfrwng Saesneg, roedd un yn ysgol uwchradd fodern a'r llall yn ysgol ramadeg ar gyfer merched. Yn dilyn ymgynghoriad gan yr awdurdod addysg lleol, Cyngor Sir Gaerfyrddin, fe benderfynwyd cyfuno'r ddwy i ffurfio'r ysgol newydd hon, erbyn Medi 2005 daeth yr ysgol i fodolaeth dan arweinyddiaeth ei Phennaeth cyntaf, Mr. T.S. Day.

Adeiladau newydd golygu

Ar ddechrau tymor Hydref 2008 agorwyd yr adeiladau newydd sbon ar safle'r hen Ysgol Cambria, ar gost o tua £30 miliwn o wariant gan y Cyngor Sir, fel rhan o'u Cynllun Moderneiddio Addysg, efo buddsoddiad ychwanegol hefyd yn cael ei roi i'r ganolfan hamdden leol gyfagos. Mae'r adeilad yn medru darparu addysg i uchafswm o 1,600 o ddisgyblion gan wneud hi felly'r ysgol uwchradd fwyaf (a diweddaraf) yn ardal Sir Gaerfyrddin. Roedd pwyslais wedi cael ei roi gan y cynllunwyr i greu ysgol a oedd yn cyflawni anghenion amgylcheddol da.

Mae yma hefyd Canolfan Anghenion Addysg Arbennig ar gyfer sector cynradd ac uwchradd ardal Gorllewin Sir Gaerfyrddin. Mae'r ysgol wedi cyflwyno pynciau annhraddodiadol, megis trin gwallt, mewn cydweithrediad efo Ysgol Gyfun Bro Myrddin, Ysgol Gyfun Maes-Yr-Yrfa ac Ysgol Rhydygors ers Medi 2008. Daeth yr ysgol dan sylw archwilwyr addysg Estyn ym Mawrth 2008 a cafodd yr ysgol adroddiad da iawn gan ystyried yr amgylchiadau wedi symud adnoddau ac adeiladau.

Ers agor yr adeiladau newydd yn 2008 mae'r ysgol wedi cynnal ymgynghoriad i geisio gwella darpariaeth eu pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg. Disgwylwyd i ganlyniadau'r ymgynghoriad gael eu cyhoeddi erbyn Hydref 2009. Byddai cyhoeddiad yr ymgynghoriad hefyd yn datgan dyddiad cadarn ar gyfer agor eu holl adnoddau Addysg Gorfforol, gan gynnwys y cae chwarae ar safle'r hen Ysgol Maridunum, a ddisgwylwyd erbyn 2010.

Pennaethiad Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth golygu

  • 2005– Mr. T.S. Day
  • Presenol- Mr P Spencer

Cwricwlwm golygu

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu