Ysgol Wirfoddol Rheoledig Tasker Milward

ysgol uwchradd yng Nghymru


Ysgol gyfun cyfrwng Saesneg yw Ysgol Wirfoddol Rheoledig Tasker Milward, a'i leolir yn Hwlffordd, yn ne Sir Benfro.[1] Mae dros 1,000 o ddisgyblion yn yr ysgol,[2] ac mae'r chweched ddosbarth yn rhan o Ffederasiwn yr Hwlffordd, sy'n cynnwys Ysgol Syr Thomas Picton a Choleg Penfro.

Ysgol Wirfoddol Rheoledig Tasker Milward
Tasker Milward
Voluntary Controlled School
Sefydlwyd 1612 / 1684 (uno 1940au)
Math Cyfun, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Saesneg
Pennaeth Mrs M Haynes
Sylfaenydd Thomas Lloyd / Mary Tasker
Lleoliad Hwlffordd, Sir Benfro, Cymru
Safleoedd Ysgol Uchaf, Portfield Avenue, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1EQ

Ysgol Isaf, Scarrowscant, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1EP

AALl Cyngor Sir Benfro
Staff 142 (yn cynnwys staff ategol)
Disgyblion 1018
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 11–18
Lliwiau           Coch a gwyrdd
Gwefan Gwefan swyddogol

Hanes golygu

 
Adeilad gwreiddiol Ysgol Elusennol Tasker, Tower Hill, Hwlffordd.

Sefydlwyd Ysgol Ramadeg Bechgyn Hwlffordd wedi i Thomas Lloyd, o Gilciffeth ger Llanychaer, roddi adeiladau yn ei ewyllys ar 22 Tachwedd 1612.[3] Roedd yr adeiladau yn cynnwys ffermydd a enillai rhent er mwyn cynnal yr ysgol yn rhad ac yn ddim i'r disgyblion. Roedd ysgol wedi bodoli yno gynt wedi i'r Cofrestrydd Esgobol benodi meistr i "gyfarwyddo plant annysgedig mewn gramadeg a gwyddorau rhyddfrydol eraill" yn 1488. Elwodd yr ysgol hefyd gan ewyllyd John Milward yn 1654, a fudd-dalodd Ysgol Ramadeg y Brenin, Birmingham yn ogystal.[4] Ysgol lletya oedd yr ysgol ramadeg hyd tua 1948, pan ddymchwelwyd yr adeilad. Dyma lle safai llyfrgell y dref heddiw.[5]

Cychwynwyd Ysgol Elusennol Tasker gan Elusen Tasker, a sefydlwyd gan Mary Tasker (Miss Howard/Hayward gynt, o 1 Flether Hill, Rudbaxton)[6][7] yn ei ewyllys ym 1684, er mwyn addysgu bechgyn a merched tlawd,[8] ond daeth yn ysgol i ferched yn ddiweddarach. Mae adeilad yr hen ysgol hon eisoes wedi cael ei droi'n fflatiau.

Cafodd Ysgol Ferched Tasker ac Ysgol Ramadeg Hwlffordd eu cyfuno yn yr 1940au er mwyn creu'r ysgol ar ei ffurf bresennol.

Mae gan yr ysgol raddfa ar gyfartaledd o 5 TGAU (C neu uwch), un o'r isaf yn Sir Benfro.

Adnoddau golygu

Mae gan yr ysgol dair adeilad ar ddau safle, Adeilad Milward, a gyfeirir ati fel yr ysgol isaf, lle mae'r llyfrgell a dysgir Saesneg, mathemateg, cemeg, ffiseg, addysg gorfforol a thechnoleg gwybodaeth a chyfarthebu yn yr adeilad hwn. Ar yr un safle mae bloc y dyniaethau lle dysgir daearyddiaeth, hanes ac addysg grefyddol. Cyfeirir at Adeilad Tasker fel yr ysgol uchaf, a dyma lle dysgir Cymraeg, Ffrangeg, Sbaeneg, Saesneg, bioleg, addysg bersonol a chymdeithasol, technoleg, celf a drama. Yma mae'r chweched dosbarth yn ogystal, gydag ystafell adnoddau ac ystafell gyffredin.

Chwaraeon golygu

Mae adeilad chwaraeon ar ffurf cromen wedi ei enchwythu, a adnabyddir fel The Dome. Ynddi, mae dau gwrt tenis a chwrt pêl-fasged/pêl-rwyd ac mae'n agored i'r cyhoedd ar ôl oriau ysgol, ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau.[9] Mae gan yr ysgol hefyd bedair cwrt tenis awyr agored gyda llifoleuadau, cwrt hoci, maes rygbi, maes astro-turf ar gyfer pêl-droed, a phwll nofio.

Cyfleusterau anghenion arbennig golygu

Codwyd adeilad newydd ar safle'r ysgol uchaf yn Portfield yn ystod 2008, ar gyn safle'r maes pêl-droed a'r maes criced, sy'n cynnwys adnoddau ar gyfer disgyblion gydag anghenion arbennig. Mae'r cyfleusterau'n rhoi'r gallu i'r disgyblion fod yn fwy annibynnol.

Mae rampiau a lifftiau grisiau i'w cael yn yr ysgol isaf ar gyfer disgyblion anabl, a bwriadwyd adeiladu lifft yn yr ysgol uchaf erbyn 2010.

Yr amgylchedd golygu

Rhoddodd adroddiad raddfa effeithlonrwydd egni D i'r adeiladau. Erbyn hyn mae gwydriad dwbl yn Adeilad Tasker, y bloc dyniaethau ac yn ystafelloedd gwyddoniaeth adeilad Milward.

Cyn-ddisgyblion o nôd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1.  Tasker Milward VC School. Cyngor Sir Penfro. Adalwyd ar 25 Awst 2011.
  2. "From the Head: Welcome to Tasker Milward". Tasker Milward Voluntary Controlled School. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-12-24. Cyrchwyd 2011-08-26.
  3.  HAVERFORDWEST [HWLFFORDD]. Genuki. Adalwyd ar 26 Awst 2011.
  4.  Mr Basil H. J. Hughes. BA.. Gazzetter: Haroldstone. Cenquest Census Research Wales. Adalwyd ar 26 Awst 2011.
  5.  Historic Haverfordwest: In Pictures. BBC South West Wales (Medi 2009). Adalwyd ar 26 Awst 2011.
  6.  HAVERFORDWEST From From Lewis' Topographical Dictionary of Wales (1833). Genuki. Adalwyd ar 26 Awst 2011.
  7. John Brown. The history of Haverfordwest with that of some Pembrokeshire parishes, tud. 6. URL
  8.  Pembrokeshire Record Office - Secondary School Records; Sample Selection of Textbooks used in Pembrokeshire Schools and Pembrokeshire Technical College Records. Adalwyd ar 25 Awst 2011.
  9.  Cyfleusterau chwaraeon o’r radd flaenaf yn y gromen newydd. Cyngor Sir Penfro (5 Mai 2011).

Dolenni allanol golygu