Ysgrifen ddyneiddiol

Arddull o lawysgrifen a ddatblygwyd gan ddyneiddwyr yng nghyfnod y Dadeni Dysg yn yr Eidal yn niwedd y 14g a dechrau'r 15g yw ysgrifen ddyneiddiol neu law ddyneiddiol.

Enghraifft o ysgrifen ddyneiddiol mewn rhagair Lorenzo Valla i'w gyfieithiad o Hanes Rhyfel y Peloponnesos gan Thucydides (canol y 15g).

Dyfeisiwyd yr ysgrifen ddyneiddiol gan Poggio Bracciolini (1380–1459) wrth ei waith yn adysgrifennu llawysgrifau yn Fflorens. Roedd Canghellor Fflorens, Coluccio Salutati (1331–1406), eisoes wedi arbrofi â symleiddio ffurfiau'r llythrennau, ar batrwm hen lawysgrifau o awduron clasurol, a defnyddiodd Bracciolini yr un lawysgrifau i ddatblygu ysgrifen newydd a ystyriwyd yn eglur a darllenadwy o'i chymharu â'r sgript Gothig a fu'n gyffredin ers yr Oesoedd Canol Uwch. Tybiodd Bracciolini a Salutati i'r Rhufeiniaid hynafol ddefnyddio llythrennau tebyg, er bellach gwyddys taw'r llaw fân Garolingaidd oedd arddull yr hen lawysgrifau yn Fflorens, a ddatblygwyd gan sgrifellwyr Ffrancaidd yn y 9g. Mae'n debyg i Bracciolini ac eraill hefyd dynnu ar arysgrifau'r Rhufeiniaid wrth ddylunio'r llythrennau, ac felly nid llwyr gamenw ydy eu galw yn antiqua littera ("llythyren hynafol") neu lythrennau Rhufeinig. Cafodd arddull Bracciolini ei ddynwared a'i gaboli gan sgrifellwyr, yn enwedig wrth gopïo llawysgrifau Lladin, gan ddatblygu yn ffurf gynnar ar y teipiau Rhufeinig.[1]

Er i ysgolheigion dyneiddiol y Dadeni efelychu llythrennau Bracciolini, defnyddiwyd ysgrifennau canoloesol megis y sgript Gothig o hyd wrth gynhyrchu a chopïo dogfennau cyfreithiol, cofnodion busnes, a llyfrau mewn ieithoedd y werin. Dull o ysgrifennu mewn llythrennau ar wahân oedd y llaw ddyneiddiol, yn hytrach nag ysgrifen redeg. Datblygwyd ffurf amgen ar y sgript Rufeinig gan Niccolò Niccoli (1364–1437), a elwir llythrennau italig, trwy ysgrifennu'r llythrennau ar ogwydd a chyda chyfrwymiadau i 'w cysylltu, at ddiben copïo llawysgrifau yn gyflymach. Yn sgil dyfeisio'r wasg argraffu yng nghanol y 15g, defnyddiwyd llythrennau Gothig gan argraffwyr Almaenig ond dechreuodd yr Eidalwyr arbrofi gyda theipiau yn yr arddull Rhufeinig, yn enwedig wrth argraffu testunau Lladin. Mabwysiadwyd llythrennau italig gan argraffwyr megis Aldus Manutius.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Charles G. Nauert, Historical Dictionary of the Renaissance (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2004), tt. 409–11.