Diod melys oer sydd fel arfer wedi'i wneud o laeth neu hufen iâ, a chyflasynnau fel menyn caramel, saws caramel, surop siocled, neu surop ffrwythau, yw ysgytlaeth.[1]

Strawberry milkshake.jpg
Ysgytlaeth mefus

Roeddynt yn wreiddiol yn cael eu gwneud â llaw trwy gymysgu hufen ia a llaeth. Mae modd ei wneud erbyn hyn drwy ychwanegu powdr i laeth ffres a'i gymysgu, a daw rhain mewn nifer o flasau, gan gynnwys siocled, powdr coco, caramel, mefus, a banana. Erbyn hyn, mae nifer o siopau bwyd cyflym yn eu gwneud â pheiriant.

Pan gafodd y term Saesneg "milkshake" ei ddefnyddio gyntaf mewn print yn 1885, diod alcoholig oedd ysgytlaeth.[2] Ond erbyn 1900, roedd y term yn cyfeirio at ddiod oedd yn cael ei ystyried yn 'faethlon', ac erbyn y 1930au, roedd ysgytlaethau wedi troi ddiodydd poblogaidd dros ben. Nid oes cofnod ysgrifenidig, ond tybir i'r gair 'ysgytlaeth' gael ei fathu yn y Gymraeg tua'r 1970au gyda dyfodiad rhagor o ddarlledu Cymraeg ar y teledu a BBC Radio Cymru ac adeg yr angen am arwyddio Cymraeg mewn sefydliadau megis yr Eisteddfod Genedlaethol lle gwerthwyd y diod ac roedd rhaid cadw at y Rheol Iaith.

Cyfeiriadau golygu

  1.  ysgytlaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 10 Awst 2022.
  2. Stuart Berg Flexner, Listening to America (Efrog Newydd: Simon & Schuster, 1982), t.178