Math o benwisg sydd wedi'i ddylunio i ddal y gwallt yn ôl mewn darn o ddefnydd neu sach yw ysnoden.[1] Yn ei ffurf draddodiadol, mae'r benwisg yn debyg i gwcwll sy'n cael ei wisgo'n agos dros gefn y pen. Mae'n debyg i rwyd gwallt, ond mae ysnodenni fel arfer yn fwy llac,[2] a rhwyll mwy cras, ac edafedd sy'n amlwg yn dewach. Gall band rhwyll tynnach orchuddio'r talcen neu'r corun, ac yna redeg y tu ol i'r clustiau, ac i lawr y gwar. Mae sach o rhyw fath ynghlwm wrth y band sy'n gorchuddio a dal y gwallt yn y cefn. Roedd ysnoden weithiau yn cael ei gwneud o ddeunydd solid, ond fel arfer yn edafedd a oedd wedi'i wau yn llac neu ddeunydd arall tebyg i rwyd. Yn hanesyddol, roedd sach bychan o edafedd man yn dal y gwallt ar gefn y pen neu'n ei ddal yn agos i'r gwar.[3]

Ysnoden
Mathhairnet Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Darlun o fenyw yn gwisgo ysnoden yn y 19g

Ceir ysnodenni hefyd ar gyfer barfau neu flewiach arall ar y wyneb at ddibenion hylendid wrth drin a chynhyrchu bwyd.Mae ysnodenni yn aml yn cael eu gwisgo gan fenywod sy'n Iddewon Uniongred, er mwyn gorchuddio'r gwallt yn hytrach na'i ddal. Oherwydd hynny, maen nhw'n aml wedi eu leinio gyda deunydd fel nad oes modd gweld trwyddynt.Mae ysnodenni hefyd wedi dod i gael eu cynhyrchu fel dilledyn aml-bwrpas, i'w gwisgo o amgylch y gwddf, dros y wyneb, yn ogystal ag ar y corun. 

Cyfeiriadau golygu

  1. "History of Hair Covering Part #1: Snoods". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-21. Cyrchwyd 2018-11-20.
  2. Karen Roemuss; Martin Green; Leo Palladino (2018). Professional Hairdressing: Australian and New Zealand Edition 2ed. ISBN 0170415929. Snoods ... They're like a hair net but have a looser fit and much coarser mesh ...
  3. Carmenica Diaz (2014). Tales of Aswin. ISBN 129199002X.