Ystad a Neuadd Trefalun

maenordy rhestredig Gradd II* yn Yr Orsedd

Maenordy a thiroedd ym mhentref yr Orsedd, Wrecsam yw Ystad neu Neuadd Trefalun (neu Drefalyn) a ystyrir yn un o brif faenordai Gogledd Cymru, ac sy'n dyddio i 1576. Codwyd y neuadd wreiddiol gan Sion Trefor (m. 1589) a oedd yn un o ddisgynyddion Tudur Trefor ("Brynkynallt") o'r 10g. Lleolir Ystâd Trefalun bellach ym mwrdeistref sirol Wrecsam, ond arferai fod yn ardal Maelor, yn yr hen Sir Ddinbych.

Trefalun
Trefalun
Maenordy Trefalun
Enwau eraillTrevalyn
Gwybodaeth gyffredinol
StatwsGradd II*
MathMaenordy
Arddull bensaernïolArddull Oes Elisabeth
LleoliadWrecsam
CyfeiriadYr Orsedd
GwladCymru
Torri'r dywarchen gyntaf16eg ganrif
Dechrau adeiladu1576
Adferwyd1836
Cynllunio ac adeiladu
PerchennogPreifat
PensaerSion Trefor
Walter Hancock

Oherwydd ei bwysigrwydd pensaernïol, cofrestrwyd y maenordy ac adeiladau eraill, allanol, gan Cadw yn Radd II* ar 6 Medi 1952, yn bennaf oherwydd ei arddull Elisabethaidd a'i gysylltiad gyda'r Treforiaid.[1]

Mae'n fwy na phosib mai Sion Trefor ei hun, gyda chymorth y prif saer (neu 'bensaer' erbyn heddiw) Walter Hancock o Much Wenlock a gynlluniodd y maenordy gwreiddiol. Roedd Sion wedi etifeddu'r ystâd gan ei hen daid, Richard Trefor, pan briododd hwnnw Matilda, merch Siencyn ap Dafydd ap Gruffud o Drefalyn. Yn Llundain y gwnaeth Sion Trefor ei ffortiwn, ac roedd yn gyfaill agos i Thomas Sackville, Arglwydd Buckhurst, Howard o Effingham ac Iarll Dorset cefnder ei wraig. Erbyn 1600 roedd gan deulu'r Treforiaid nifer o faenordai eraill, gan gynnwys Plas Teg yn yr Hôb, Sir y Fflint a brynnwyd gan Syr John Trevor I (1563–1630) ac ef hefyd a gododd maenordy Plas Teg yn 1610. Ei fab hynaf, Richard Trefor (1558 - 1638) a etifeddodd y tŷ, ond gwell oedd ganddo dreulio'i amser ym Mhlas y Roft, ym Marford.[2]

"Y Loge".

Mae rhai o'r hen ffosydd o amgylch y parciau ceirw, a greewyd yr un pryd a'r plasty yn 1576, yn dal i'w gweld heddiw.

Yn y 1670au, etifeddodd y Treforiaid "Glynde Place" yn Sussex, a ddaeth, wedi hynny, yn brif gartre'r teulu. Cadwyd Trefalun gan stiwardiaid ac asiantiaid y teulu. Yn 1836 atgyweiriwyd y tŷ a chodwyd y Porter's Lodge; cynlluniwyd y gwaith gan besaer lleol o'r enw Thomas Jones. Gwerthwyd yr ystad yn y 1980au athrowyd yr adeilad yn ddwy fflat.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Trevalyn Hall (including former lodge), Rossett". British Listed Buildings. Cyrchwyd 5 Awst 2016.
  2. Y Bywgraffiadur Cymraeg Arlein; Llyfrgell Genedlaethol Cymru.