Genre o gylchgronau a ffilmiau am gariad rhwng merched mewn anime manga ydy Yuri (百合, "Lili"), neu cariad merch (ガールズラブ gāruzu rabu),[3].[4] Mae Yuri yn canolbwyntio ar yr ochr rhywiol a'r ochr ramantus o'r berthynas. Weithiau mae'n nhw'n defnyddio'r term shōjo-ai yn y Gorllewin am yr ochr ramantus.[5]

Perthynas rhwng "blondan" a "brwnet" mewn ysgol breswyl i ferched, Shiroi Heya no Futari, oedd y manga yuri cyntaf,[1].[2]

Mae gwreiddiau yuri yn mynd yn ôl i ffuglen lesbiaidd ar ddechrau'r 20g: i lyfrau fel Yaneura no Nishojo gan Nobuko Yoshiya. Ond yn y 1970au y dechreuodd manga lesbiaidd go iawn, gan artistiaid fel Ryoko Yamagishi a Riyoko Ikeda.[1] Daeth ffasiwn newydd a ffres yn y 1990au yn ogystal â stwff dōjinshi, a derbyniawyd y genre yn gyffredinol gan y gymdeithas yn Japan a gwledydd eraill hefyd.[6] Yn 2003, y cyhoeddwyd y cylchgrawn manga yuri go-iawn, am y tro cyntaf: Yuri Shimai. Ar ei ôl, pan ddaeth Yuri Shimai i ben, cyhoeddwyd Comic Yuri Hime.[7]

Ar gyfer merched y cafodd ei greu'n wreiddiol, ond erbyn hyn ceir math shōnen seinen, hefyd, ar gyfer dynion. Mae'r manga yuri ar gyfer dynion yn cynnwys Kannazuki no Miko a Strawberry Panic!, a gweithiau allan o'r Comic Yuri Hime' a lansiwyd yn 2007.[8]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Brown, Rebecca (2005). "An Introduction to Yuri Manga and Anime (page 1)". AfterEllen.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-19. Cyrchwyd 2008-01-18.
  2. Friedman, Erica (2006-06-27). "Yuri Manga: Maya's Funeral Procession / Maya no Souretsu". Okazu. Yuricon. Cyrchwyd 2015-05-06.
  3. Morishima, Akiko (Ionawr 2008). "YurixYuri Kenbunroku" (yn Japanese). Comic Yuri Hime (11). ASIN B00120LP56.
  4. Charlton, Sabdha. "Yuri Fandom on the Internet". Yuricon. Cyrchwyd 2008-01-13.
  5. Friedman, Erica. "What is Yuri?". What are Yuri and Shoujoai, anyway?. Yuricon and ALC Publishing. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2005-04-06. Cyrchwyd 20 May 2005.
  6. "Maria-sama ga Miteru to Yuri Sakuhin no Rekishi" (yn Japanese). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-01-12. Cyrchwyd 2008-02-16.CS1 maint: unrecognized language (link) Sources: Watashi no Ibasho wa Doko ni Aruno? by Yukari Fujimoto (ISBN 4313870113), Otoko Rashisa to Iu Byōki? Pop-Culture no Shin Danseigaku by Kazuo Kumada (ISBN 4833110679), and Yorinuki Dokusho Sōdanshitsu (ISBN 978-4860110345).
  7. "Comic Yuri Hime". ComiPedia. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-01-23. Cyrchwyd 2015-04-04.
  8. "Ichijinsha's info about Comic Yuri Hime S" (yn Japanese). Ichijinsha. Cyrchwyd 2008-01-03.CS1 maint: unrecognized language (link)