Sefydlwyd yr International Assessments Program — a adnabyddir fel Z-Division — fel un o'r Grwpiau Prosiectau Arbennig yn Lawrence Livermore National Laboratory i ddarparu asesiadau technegol am raglenni ynni niwclear estronol a'r gallu gan wladwriaethau estron i greu arfau niwclear ar gyfer asiantaethau cudd-wybodaeth a diogelwch cenedlaethol yr Unol Daleithiau.[1]

Z-Division

Sefydlwyd Z-Division yn 1965 pan oedd y Rhyfel Oer ar ei anterth er mwyn ceisio dadansoddi canlyniadau profion arfau niwclear yr Undeb Sofietaidd. Sefydlwyd y berthynas rhwng yr asiantaeth a gwasanaethau cudd-wybodaeth yr Unol Daleithiau yn ffurfiol pan lunwyd memorandwm dealltwriaeth rhwng y CIA (Central Intelligence Agency) a'r Comisiwn Ynni Atomig (Atomic Energy Commission: Adran Ynni'r Unol Daleithiau erbyn hyn) yn yr un flwyddyn.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Assessing the Weapons Capability of Others", Adran Ynni'r Unol Daleithiau.
  2. "Science and Technology Review, Gorffennaf/Awst 2002, ad-dalwyd 29/12/2008". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-11-21. Cyrchwyd 2010-08-05.

Dolenni allanol golygu