Mae Zachary David Alexander "Zac" Efron (ganed 18 Hydref 1987) yn ganwr ac yn actor Americanaidd. Dechreuodd actio ar ddechrau'r 2000au, a daeth yn adnabyddus i gynulleidfaoedd ifainc ar ôl iddo gael rhan yn ffilm wreiddiol High School Musical ar y Disney Channel, y gyfres Summerland a'r fersiwn ffilm o sioe gerdd Broadway, Hairspray..[1] Tra'n siarad â chylchgrawn Newsweek ym mis Mehefin 2006, dywedodd y cyfarwyddwr Adam Shankman mai Efron oedd "arguably the biggest teen star in America right now."[2]

Zac Efron
GanwydZachary David Alexander Efron Edit this on Wikidata
18 Hydref 1987 Edit this on Wikidata
San Luis Obispo Edit this on Wikidata
Man preswylByron Bay Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethactor, canwr, actor llais, troellwr disgiau, actor ffilm, actor teledu, actor llwyfan Edit this on Wikidata
Adnabyddus amScoob!, High School Musical, The Greatest Showman, 17 Again, Hairspray, New Year's Eve, The Lucky One, Me and Orson Welles, Charlie St. Cloud, Baywatch, Dirty Grandpa Edit this on Wikidata
MamStarla Baskett Edit this on Wikidata
PartnerVanessa Hudgens, Michelle Rodriguez Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobrau Ffilmiau MTV ar gyfer Perfformiad Gwrywaidd Gorau, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://zacefron.com Edit this on Wikidata

Ei Gefndir a'i Fywyd Cynnar golygu

Ganwyd Efron yn San Luis Obispo, Califfornia gan symud yn ddiweddarach i Arroyo Grande, California. Mae ei dad, David Efron, yn beiriannydd mewn pŵerdy a'i fam, Starla Baskett, yn gyn-ysgrifenyddes a weithiodd yn yr un pŵerdy a'i dad. Disgrifiodd Efron ei blentyndod fel "plentyndod normal" mewn teulu dosbarth canol. Mae ganddo frawd iau, Dylan. Mae Efron o dras Iddewig ond mae'n agnostig, ac ni fu erioed yn grefyddol. Dywedodd y byddai'n "flip out" petai'n cael B ac nid A yn yr ysgol, a disgrifiodd ei hun fel "clown" y dosbarth. Anogodd ei rieni ef i ddechrau actio pan oedd yn unarddeg oed.[3] Yn ddiweddarach, ymddangosodd mewn cynyrchiadau theatr yn ei ysgol uwchradd, gweithiodd mewn theatr o'r enw The Great American Melodrama and Vaudeville, a dechreuodd wersi canu. Perfformiodd Efron mewn dramâu fel Gypsy, Little Shop of Horrors, a The Music Man. Cafodd Efron ei argymell i asiant yn Los Angeles gan ei athrawes ddrama, Robyn Metchik (mam yr actorion Aaron Michael Metchik a Asher Metchik). Yn hwyrach, cafodd gytundeb gyda Creative Artists Agency.

Addysg golygu

Graddiodd Efron i Ysgol Uwchradd Arroyo Grande High School yn 2006, ac yna cafodd ei dderbyn i Brifysgol De Califfornia. Penderfynodd beidio a mynd am y tro er mwyn gallu canolbwyntio ar ei waith actio. Bwriada ddychwelyd i astudio rhyw bryd yn y dyfodol. Roedd Efron hefyd wedi mynychu'r Pacific Conservatory of the Performing Arts, coleg cymunedol wedi'i lleoli yn Santa Maria, Califfornia. Yma cafodd gyfle i weithio fel perfformiwr ifanc rhwng 2000 a 2001.

Ei Yrfa Actio golygu

Yn 2002, dechreuodd Efron ymddangos mewn cyfresi teledu, gan gynnwys Firefly, ER, a The Guardian. Portreadodd Cameron Bale ar y gyfres Summerland, sydd bellach wedi'i chanslo. Yn wreiddiol, cafodd Efron ei gyflwyno fel cymeriad parhaus, ond daeth yn aelod rheolaidd o gast y sioe yn yr ail gyfres yn 2004. Ers ymddangos yn Summerland, bu Efron ar y sioeau CSI: Miami, NCIS, The Suite Life of Zack & Cody a The Replacements. Yn 2003, serennodd Efron yn y ffilm deledu Miracle Run lle chwaraeodd ran efaill awtistig. Fe'i enwebwyd am Wobr am y Perfformiad Gorau gan Artist Ifanc mewn Ffilm Deledu neu Gyfres-Fechan. Yn 2005, chwaraeoedd y prif gymeriad yn fideo cerddorol Hope Partlow ar gyfer ei chân "Sick Inside." Hefyd yn 2005, chwaraeodd ran Patrick McCardle yn The Derby Stallion, lle mae ei gymeriad eisiau maeddu bwli'r dref mewn ras geffylau.

2006: High School Musical golygu

Yn 2006, serennodd Efron fel Troy Bolton yn ffilm wreiddiol y Disney Channel, High School Musical. Nid oedd llawer o ddisgwyliadau o'r ffilm ganddo i ddechrau, ond llwyddodd y ffilm i'w wneud yn enw ac yn wyneb cyfarwydd ymysg cynulleidfaoedd ifanc fel actor a chanwr. Ym mis Awst 2006, enillodd Efron Wobr Teen Choice fel y Seren Newydd Gorau, ynghyd a'r Categori Perthynas Orau Ar-Sgrîn gyda Vanessa Hudgens. Teithiodd cast y ffilm, gan gynnwys Efron, i Sydney, Awstralia, Llundain, Lloegr, ac i leoliadau eraill er mwyn hyrwyddo'r ffilm

Yn fuan ar ôl i High School Musical gael ei darlledu, rhyddhaodd Efron ddwy gân a aeth i'r siart Americanaidd sef "Get'cha Head in the Game" a "Breaking Free", deuawd o'r ffilm gyda Vanessa Hudgens. Yr wythnos ganlynol, roedd gan Efron bum cân o High School Musical yn y siart: "Get'cha Head in the Game", "Start of Something New", "What I've Been Looking For: Reprise", "We're All in This Together" a "Breaking Free." Credydwyd "We're All in This Together" fel holl gast High School Musical. Ar y pryd "Breaking Free", oedd y gân a ddringodd i fyny'r siart gyflymaf, o #86 i #4 o fewn pythefnos; maeddwyd y record gan gânBeyoncé a Shakira, "Beautiful Liar". Ymddangosodd Efron hefyd fel capten y Tîm Coch yn Ngêmau'r Disney Channel 2006.

Cwestiynwyd doniau canu Efron pan ddatgelwyd fod llais Andrew Seeley wedi cael ei flendio gyda llais Efron ar drac sain High School Musical.[4] Datgelodd cyfweliad gyda chylchgrawn Rolling Stone ar y 23ain o Awst, 2007 fod Efron wedi cael ei gastio ar ôl i'r caneuon gael eu hysgrifennu. Roedd y caneuon (a ysgrifennwyd ar gyfer tenor), ychydig tu hwnt i'w lais baritôn ef. Fodd bynnag, dywedodd Efron mewn cyfweliadau ei fod yn credu mai fel actor dramatig difrifol y bydd ei yrfa yn datblygu, ac nid o reidrwydd fel canwr.

2007-presennol: Rôlau Diweddar golygu

Ar y 7fed o Ebrill, 2007, ymddangosodd Efron ar raglen o Punk'd. Serennoddd Efron hefyd yn fideo cerddorol sengl Vanessa Hudgens "Say OK", lle chwaraeodd rhan ei chariad. Darlledwyd y fideo ar yr 16 o Fawrth, 2007 ar y Disney Channel. Y flwyddyn honno hefyd, fe'i enwyd fel un o 100 o Bobl Mwyaf Prydferth gan gylchgrawn People. Cafwyd llun a phroffil ohono yn yr adran "Coming of Age". Ynddo, dywedodd Efron mai ef oedd y plentyn byrraf yn yr ysgol (mae ef bellach yn 5'8") a chafodd ei bryfocio am y gap enfawr yn ei ddannedd.

Ei Fywyd Personol golygu

Mae gan Efron apartment a dau gi defaid Awstralaidd o'r enw Dreamer a Puppy. Mae ganddo gath Siamese o'r enw Simon hefyd.

Ar y 15fed o Ionawr, 2008, rhuthrwyd Efron i Ganolfan Feddysol Cedars-Sinai yn Los Angeles am lawdriniaeth frys ar ei goluddyn crog.

Roedd Efron hefyd ar restr 100 o Enwogion Forbes yn 2008, ar rif 92 gyda enillion amcangyfrifol o $5.8 miliwn rhwng mis Mehefin 2007 a Mehefin 2008.

Mewn cyfweliad ym mis Hydref 2007, cadarnhaodd Vanessa Hudgens mewn cyfweliad gyda chylchgrawn Teen Magazine ei bod hi ac Efron wedi bod yn canlyn ers ffilmio High School Musical. Roeddent dal yn canlyn ar ddechrau mis Medi 2008.

Ffilmograffiaeth golygu

Blwyddyn Ffilm/teledu Rôl Nodiadau
2002 Firefly Simon Tam Ifanc Rhaglen Safe
2003 Melinda's World Stuart Wasser
The Guardian Luke Tomello Rhaglen "Without Consent"
ER Bobby Neville Rhaglen "Dear Abby"
The Big Wide World of Carl Laemke Pete Laemke
2004 Miracle Run Steven Morgan
Room Raiders Ei hun Rhaglen deledu, Gwestai arbennig
Triple Play Harry Fuller
2005 Sick Inside gan Hope Partlow - fideo cerddorol Love Interest
Summerland Cameron Bale Cyfres deledu
CSI: Miami Seth Dawson Rhaglen "Sex & Taxes"
The Replacements Davey Hunkerhoff Rhaglen "Davey Hunkerhoff / Ratted Out"
The Derby Stallion Patrick McCardle
2006 If You Lived Here, You'd be Home Now Cody
Heist Dyn Pizza Rhaglen "Pilot"
The Suite Life of Zack & Cody Trevor Rhaglen "Odd Couples"
High School Musical Troy Bolton
NCIS Danny Rhaglen "Deception"
2007 Punk'd Ei hun Gyda Ashley Tisdale
Hairspray Link Larkin
High School Musical 2 Troy Bolton
2008 High School Musical 3: Senior Year Troy Bolton
Robot Chicken Billy Joel Rhaglen "Tell My Mom", Mature Content
2009 Saturday Night Live Ei hun/Cyflwynwr Darlledir 11 Ebrill, 2009, Hyrwyddo "17 Again"
17 Again Mike O'Donnell (arddegwr) Ebrill 17, 2009 Rhyddhau
Me and Orson Welles Richard Samuels Ebrill 2009 Rhyddhau
2010 Footloose Ren McCormack Yn cael ei ddatblygu
Hairspray 2 Link Larkin Yn cael ei ddatblygu

Disgograffiaeth golygu

Traciau Sain golygu

Caneuon a aeth i'r Siart golygu

Blwyddyn Teitl Albwm Safle yn y Siart
U.S. Hot U.S. Pop DU AWS
2007 "Ladies' Choice" Trac Sain Hairspray - - 96[5] -
"What Time Is It?" High School Musical 2 Soundtrack 6 6 20 20
"Bet on It" 46 35 65 -
"You Are the Music In Me"
(gyda Vanessa Anne Hudgens a Olesya Rulin)
31 28 26 86
"You Are the Music In Me (Fersiwn Sharpay)"
(gyda Ashley Tisdale)
- 95 89 -
"Gotta Go My Own Way"
(gyda Vanessa Anne Hudgens)
34 31 40 -
"Everyday"
(gyda Vanessa Anne Hudgens)
65 46 55 -
2008 "Now or Never"
(gyda Chast High School Musical 3)
Trac Sain High School Musical 3: Senior Year 68 41 41 92
"A Night to Remember"
(gyda Chast High School Musical 3)
108 - - 96
"Right Here, Right Now"
(gyda Vanessa Anne Hudgens)
119 - - -
"Can I Have This Dance"
(gyda Vanessa Anne Hudgens)
98 - - 84
"The Boys Are Back"
(gyda Corbin Bleu)
101 - - 72

Cyfeiriadau golygu

  1. Zac Efron Joins Cast of Hairspray Archifwyd 2006-08-20 yn y Peiriant Wayback. 26-06-2006] Adalwyd 03-03-2009
  2. Gwefan Lycos Retriever Archifwyd 2008-05-22 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd 03-03-2009
  3. Zac Efron:Biography Archifwyd 2009-03-03 yn y Peiriant Wayback. Gwefan tv.com Adalwyd 03-03-2009
  4. Chart Beat Chat Adalwyd 07-03-2009
  5. "ChartStats.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-09-30. Cyrchwyd 2007-09-30.