Zaha Hadid

cyfenw

Pensaer Iracaidd-Prydeinig oedd y Fonesig Zaha Mohammad Hadid, DBE (Arabic: زها حديدZahā Ḥadīd; 31 Hydref 195031 Mawrth 2016)[1] Yn 2004, hi oedd y benyw cyntaf i dderbyn Gwobr Pensaernïaeth Pritzker.[2] Derbyniodd Wobr Stirling yn 2010 a 2011.[2] Yn 2014 enillodd wobr Dyluniad y Flwyddyn gan yr Amgueddfa Ddylunio am ei dyluniad o Ganolfan Ddiwylliannol Heydar Aliyev, gan ei wneud y benyw cyntaf i ennill y brif wobr yn y gystadleuaeth honno.[2] Yn 2015 hi oedd y benyw cyntaf i ennill Medal Aur RIBA yn ei rhinwedd ei hun.[2]

Zaha Hadid
Ganwyd31 Hydref 1950 Edit this on Wikidata
Baghdad Edit this on Wikidata
Bu farw31 Mawrth 2016 Edit this on Wikidata
o trawiad ar y galon Edit this on Wikidata
Miami Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Irac Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Architectural Association School of Architecture
  • Prifysgol America yn Beirut
  • Ysgol Berkhamsted Edit this on Wikidata
Galwedigaethpensaer, cynllunydd, academydd, dylunydd gemwaith, arlunydd, cerflunydd, arlunydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Illinois yn Chicago
  • Prifysgol y Celfyddydau Cymhwysol Fienna
  • Prifysgol Harvard Edit this on Wikidata
Adnabyddus amSheikh Zayed Bridge, London Aquatics Centre, Heydar Aliyev Cultural Center, Guangzhou Opera House, Contemporary Arts Center, Dubai Opera House, BMW Central Building, Bridge Pavilion, Lilium Tower, Bergiselschanze, Phaeno Science Center, CMA CGM Tower, Riverside Museum, MAXXI – National Museum of the 21st Century Arts, one-north, CityLife, Havenhuis, Capital Hill Residence, Vitra Fire Station Edit this on Wikidata
Arddullarchitectural painting, futurist architecture Edit this on Wikidata
Mudiaddeconstructivism Edit this on Wikidata
TadMohammed Ali Haded Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Stirling, Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Pritzker Architecture Prize, Praemium Imperiale, Medal Aur Frenhinol, Gwobr Stirling, Medal Aur Mawr Anrhydedd am Gwasanaethau i Gweriniaeth Awstria, Gwobr Jane Drew, European Union Prize for Contemporary Architecture, Rhestr Forbes o 100 Merch mwyaf Pwerus y Byd, Fellow of the American Institute of Architects, Gwobr Awstria am Gelf a Gwyddoniaeth, Distinguished Guest of Mexico City Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.zaha-hadid.com Edit this on Wikidata

Mae ei adeiladau yn nodweddiadol neoddyfodolaidd, wedi ei nodweddu gan "powerful, curving forms of her elongated structures"[3] gyda "multiple perspective points and fragmented geometry to evoke the chaos of modern life".[4] Yn fwyaf diweddar roedd hi'n Athro ym Mhrifysgol y Celfyddydau Cymhwysol Vienna yn Austria.[5]

Bywyd ac addysg golygu

Ganwyd Hadid ar 31 Hydref 1950 yn Baghdad. Fe'i magwyd mewn adeilad oedd un o'r cyntaf yn Baghdad i gael ei ysbrydoli gan fudiad Bauhaus mewn cyfnod lle roedd "moderniaeth yn golygu swyn a meddwl blaengar" yn y Dwyrain Canol.[3]

Astudiodd fathemateg ym Mhrifysgol Americanaidd Beirut cyn symud i astudio yn Ysgol Bensaernïaeth y Gymdeithas Bensaernïol yn Llundain, lle cyfarfu Rem Koolhaas, Elia Zenghelis, a Bernard Tschumi. Gweithiodd i'w cyn-athrawon, Koolhaas and Zenghelis, yn Swyddfa am Bensaernïaeth Prifddinesig, yn Rotterdam, yr Iseldiroedd; a daeth yn bartner yn 1977. Trwy ei chysylltiad â Koolhaas, cyfarfu Peter Rice, peiriannydd a'i chefnogodd ac anogodd ar adeg pan oedd ei gwaith yn ymddangos yn anodd. Yn 1980, sefydlodd ei cwmni ei hun yn Llundain. Yn ystod yr 1980a bu'n dysgu hefyd yn y Gymdeithas Bensaernïol.

Enillodd Hadid y gystadleuaeth i ddylunio Tŷ Opera Bae Caerdydd, ond bu ffrae a chafodd y cynllun ei newid.

Bu farw Hadid o drawiad ar y galon mewn ysbyty yn Miami, ar 31 Mawrth 2016, lle roedd yn cael ei thrin am broncitis.[1] Roedd hi wedi cael ei derbyn fel dinesydd o'r Deyrnas Unedig.[6][7]

Yn 2012, fe'i gwnaed yn Fonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig.[2]

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Llyfryddiaeth golygu

Gwaith golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Architect Dame Zaha Hadid dies after heart attack". BBC News. 31 Mawrth 2016. Cyrchwyd 31 Mawrth 2016.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 "Dame Zaha Hadid awarded the Riba Gold Medal for architecture – BBC News". Bbc.com. Cyrchwyd 2015-09-24.
  3. 3.0 3.1 Vogel, Carol. "Zaha Hadid". Times Topics. The New York Times.
  4. "Zaha Hadid (19 June–25 November 2007)". Design Museum.
  5. "Institute of Architecture".
  6. "Zaha Hadid Biography". Encyclopedia of World Biography. Cyrchwyd 2015-09-27.
  7. "Architects: Biography Zaha Hadid". floornature.com. August 10, 2015. Cyrchwyd 2015-09-27.