Zarqa

dinas yng Ngwlad Iorddonen

Mae Zarca (Arabeg: الزرقاء; az-Zarqāʾ; "yr un glas"), a elwir hefyd yn Zarqa, Zerka, Ez-Zarqa ac Az-Zarqa (a elwir yn lleol fel ez-Zergā neu ez-Zer'a), yn ddinas yng Ngwlad Iorddonen a leolir 25 cilomedr i'r gogledd-ddwyrain o'r brifddinas, Amman.[1] Gyda 395,227 o drigolion (cyfrifiad 2004), mae'n ffurfio'r ail ddinas fwyaf yn y wlad. Zarca yw prifddinas Ardal Lywodraethol Zarqa (Muhāfaẓat az-Zarqā), lle roedd 635,160 o bobl yn byw yn 2015,[2] neu 15.5% o boblogaeth yr Iorddonen. Mae gan Zarka ei phrifysgol breifat ei hun.

Zarqa
Mathdinas Edit this on Wikidata
Poblogaeth481,300 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1902 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iOran Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirArdal Lywodraethol Zarqa Edit this on Wikidata
GwladBaner Gwlad Iorddonen Gwlad Iorddonen
Arwynebedd60 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr619 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau32.08°N 36.1°E Edit this on Wikidata
Map

Trosolwg golygu

Lleolir Zarca yn nyffryn yr afon Zarqa yng ngogledd orllewin Gwlad Iorddonen. Zarka yw canolfan ddiwydiannol y wlad: mae mwy na 50% o ddiwydiant yr Iorddonen wedi'i leoli yn y ddinas. Mae gan y ddinas y sefyllfa hon yn bennaf oherwydd ei bod mor agos at y ganolfan bŵer a phrisiau tir sy'n rhatach nag yn Amman.

Mae poblogaeth y ddinas wedi cynyddu'n sydyn ers yr 1940au. Ar ôl y Rhyfel Chwe Diwrnod, dilynodd ffrwd o ffoaduriaid i'r Iorddonen o Lan Orllewinol, Balestina, gan ddyblu'r ddinas o ran poblogaeth.

Cyhoeddwyd prosiect adeiladu tai a swyddfeydd mawr yn 2007. Rhaid i fwy na 370,000 o bobl gael eu cartrefu mewn lleoliad newydd yn Zarca. Bydd y gwaith yn cael ei ariannu gan gwmnïau o Arabia Sawdi. Enwyd y ddinas newydd yn Ddinas Breswyl y Brenin Abdullah Ben Abdul Aziz Al Saud ar ôl y Abdullah, brenin Sawdi Arabia. Yn cael ei alw'n fwyaf yn hanes Saudi, bydd y prosiect yn cael ei weithredu gan gwmnïau o ranbarth y Gwlff a bydd yn costio sawl biliwn o ddoleri. Gosodir llinell reilffordd fodern newydd i Amman fel rhan o'r prosiect.

Hanes golygu

Er ei bod pobl wed byw yn ardal Zarqa ers y ganrif gyntaf, sefydlwyd dinas Zarqa gan fewnfudwyr o ranbarth y Cawcasws yn 19g yn dilyn y rhyfeloedd rhwng Ymerodraeth yr Otomaniaid ac Ymerodraeth Rwsia. Ymgartrefodd ffoaduriaid o'r rhyfeloedd ar hyd yr Afon Zarqa. Yn fuan wedyn adeiladwyd gorsaf Reilffordd Hejaz yn y dref newydd. Trodd gorsaf reilffordd Zarqa yn ganolbwynt pwysig. Ar 10 Ebrill 1905, cyhoeddodd y llywodraethwr Otoman archddyfarniad a oedd yn caniatáu i'r mewnfudwyr Xexen (oedd eu cyndadau wedi ffoi rhag lluoedd Rwsia) feddu ar diroedd yr oeddent wedi setlo arnynt. Tyfodd y boblogaeth yn gyflym wedi hynny. Ar 18 Tachwedd 1928, cyhoeddodd llywodraeth newydd yr Iorddonen archddyfarniad i sefydlu'r cyngor trefol cyntaf ar gyfer Zarqa.

Yn ystod cyfnod lywodraethol Mandad Prydain dros Iorddonen a Phalesteina ffurfiwyd Llu Ffin Trawsiorddonen (Transjordan Frontier Force) yn 1926, adeiladwyd canolfannau filwrol yn y ddinas gan y Fyddin Brydeinig a daeth y ddinas yn ddiweddarach yn cael ei galw'n "ddinas filwrol".[3] Roedd pencadlys Lleng Arabaidd Iorddonen (yr 'Arab Legion' enwog) yn Zarca.

Bu cyn-faes Awyr "Dawson's Field" ger Zarca yn leoliad ar gyfer ffrwydro tri awyren a gipiwyd gan herwgipwyr Ffrynt Poblogaidd ar gyfer Rhyddhau Palesteina (PFLP) fel rhan o ddigwyddiadau cythryblus Mis Medi Du yn 1970 rhwng lluoedd teyrnas yr Iorddonen a'r Palesteiniaid. Darlledwyd y ffrwydradau ar deledu'r byd.

Demograffeg golygu

 
Qurtobah, Az-Zarqa

Mae poblogaeth metropolitan Zarca oddeutu 700,000 in 2010. Zarqa yw'r ardal fetropolitan drydedd fwyaf yn Iorddonen ar ôl Amman ac Irbid, tra bod y ddinas ei hun, yr ail fwyaf o ran poblogaeth ar ôl Amman, gyda phoblogaeth o oddeutu 500,000.

Blwyddyn Poblogaeth
1903 1,000
1928 6,000
1952 28,456
2004 450,102

Economi a seilwaith golygu

 
Priffordd Amman-Zarca
 
Al Amirah Rahmah, Az-Zarqa
 
Athrofa Peirianneg Prifysgol Zarca

Mae Zarca wedi'i gysylltu gan Reilffordd Hejaz i Amman i'r de ac â Syria i'r gogledd. Mae rheilffordd newydd wrthi'n cael ei hadeiladu i gysylltu Amman â Zarqa.[4] Mae Zarqa ar y briffordd ryngwladol sy'n cysylltu Saudi Arabia â Syria ac ar briffordd ryngwladol Amman-Baghdad.

Diwydiant golygu

Zarca yw canolfan ddiwydiannol y Iorddonen. Mae'n gartref i dros 50% o ffatrïoedd y wlad. Mae twf diwydiant yn y ddinas yn ganlyniad i gostau eiddo tiriog isel ac agosrwydd at y brifddinas Amman.

Mae nifer o gyfleusterau sy'n hanfodol i economi'r Iorddonen wedi'u lleoli yn Zarca, megis yr unig ffatri burfa olew yn Iorddonen. Yn ôl Siambr Fasnach Zarca, daeth 10% o gyfanswm allforion Iorddonen yn 2011 o Ardal Lywodraethol Zarqa, sef cyfanswm o fwy na US $512 miliwn.[5] Roedd cynhyrchion lledr a dilladwaith yn cynnwys tua 52% o allforion Zarqa'a, ac yna cynhyrchion cemegol, amaethyddol a fferyllol.

Addysg golygu

Mae tair prifysgol yn Zarca, y mwyaf ohonynt yw'r Brifysgol Hasimaidd (Hashemite University). Y ddau arall yw Prifysgol Gymhwysol Al-Balqa a Phrifysgol Zarca. Mae colegau cymunedol a chanolfannau ymchwil eraill wedi'u lleoli yn Zarca fel yr Al-Zarqa Educational and Investment. Ceir hefyd, lawer o ysgolion uwchradd yn Zarca, yn fwyaf nodedig yw Ysgol Uwchradd Bechgyn Zarqa, a ystyrir yn un o'r ysgolion uwchradd hynaf yn yr Iorddonen.

Herwgipio golygu

Ar 6 Medi 1970, yn ystod 'mis Medi Du', fe wnaeth Ffrynt y Bobl dros Rhyddhau Palesteina (PFLP) herwgipio tri awyren a'u gorfodi i lanio ym Maes Dawson, maes awyr y ddinas, yr oedd ymladdwyr Palesteinaidd wedi eu hailenwi'n "Faes Awyr y Chwyldro". Cafodd pedwerydd awyren ei herwgipio ychydig ddyddiau'n ddiweddarach. Roedd y rhai a gymerodd ran yn yr ymosodiad yn mynnu rhyddhau carcharorion Palesteinaidd, ond yn y pen draw rhyddhawyd pob gwystl. Cafodd yr awyrennau eu chwythu i fyny. Yn dilyn hyn, cychwynodd byddin yr Iorddonen gyrch i hela am yr herwgipwyr gan ladd neu anafu nifer o sifiliaid di-euog yn sgil hyn.

Brodorion Zarca golygu

Oriel golygu

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Su, Alice (14 February 2014). "In the Middle East, Arabic Wikipedia is a flashpoint — and a beacon". Wired (Condé Nast). https://www.wired.com/threatlevel/2014/02/arabic-wikipedia/. Adalwyd 14 February 2014.
  2. "The General Census - 2015" (PDF). Department of Population Statistics.
  3. "Archived copy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar December 12, 2009. Cyrchwyd December 9, 2009. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)CS1 maint: archived copy as title (link)
  4. http://www.jordantimes.com/news/local/cabinet-approves-land-sale-hijaz-railway
  5. Assbeel Newspaper (Arabic content)