Mae Zembra (Arabeg: زمبرة) yn ynys greigiog sy'n gorwedd yng ngogledd-ddwyrain Gwlff Tiwnis.

Zembra
Mathynys Edit this on Wikidata
PoblogaethEdit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirNabeul Edit this on Wikidata
GwladBaner Tiwnisia Tiwnisia
Arwynebedd3.89 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr435 metr Edit this on Wikidata
GerllawGwlff Tiwnis Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau37.12556°N 10.806084°E Edit this on Wikidata
Hyd3.2 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Lleolir ynys Zembra 15 km i'r gogledd o Sidi Daoud ac El Haouaria, Cap Bon, a 55 km o borthladd La Goulette ar yr ochr arall i Gwlff Tiwnis. O ran daeareg, mae hi'n cynrychioli pen eithaf Cap Bon. Yn ogystal, mae'n un o'r tirffurfiau sy'n nodi pen deheuol Culfor Sisili. Mae ganddi arwynebedd o 391 hectar. Yn agos iddi gorwedd ynys fechan Zembretta, tua 8 km à i'r dwyrain, gydag arwynebedd o 2 hectar.

Nodweddir yr ynys gan ecoleg unigryw, ac o'r herwydd mae'n cael ei rhestru gan UNESCO, ers Ionawr 1977, fel gwarchodfa. Yn ogystal mae llywodraeth Tiwnisia wedi datgan y ddwy ynys gyda'i gilydd yn barc cenedlaethol ers Ebrill 1af 1977. Ers degawdau mae Zembra yn cael ei defnyddio fel gwylfa gan fyddin Tiwnisia ac mae'n anodd cael caniatád i lanio arni.

Darganfuwyd porthladd hynafol yn ne'r ynys, gyferbyn â chwareli Ffeniciaidd-Rhufeinig El Haouaria.

Zembra (yr ynys fwyaf) a Zembretta