Ardal Forol Warchodedig

Ardal warchodedig sydd yn cynnwys ardal fôr yw Ardal Forol Warchodedig. Fel arfer mae ardaloedd morol gwarchodiedig yn cyfyngu ar weithgarwch dynol at ddiben cadwraeth, er mwyn diogelu adnoddau naturiol neu ddiwylliannol.

Ardal Forol Warchodedig
Mathardal gadwriaethol, gwarchodfa natur Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Gall yr amddiffyniad hwn gynnwys cyfyngiadau ar ddatblygiad masnachol, arferion pysgota, tymhorau pysgota a therfynau dalfa, angorfeydd a gwaharddiadau ar symud neu darfu ar fywyd morol.

Gall yr ardaloedd hyn gael eu gwarchod gan awdurdodau ar lefelau amrywiol – lleol, gwladwriaethol, taleithiol, rhanbarthol, brodorol, cenedlaethol neu ryngwladol – mae natur y rheolaeth hon yn amrywio'n sylweddol rhwng rhanbarthau.

Ardaloedd morol gwarchodiedig yn 2020[1]

Cymru golygu

Mae gan Gymru 139 Ardal Forol Warchodedig, sy’n cynnwys 69% o ddyfroedd y glannau (hyd at 12 milltir forol). Mae sawl math o ardal forol warchodedig sy’n cynnig gwahanol lefelau o amddiffyniad.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Marine Protection Atlas". mpatlas.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 24 Mai 2022.
  2. "Ardaloedd Morol Gwarchodedig", Llywodraeth Cymru; adalwyd 10 Mehefin 2022

Dolenni allanol golygu