Tarian chwarterog a gynhelir gan ddau lewpart dywal yw arfbais Benin. Yn adrannau'r darian, darlunir castell Somba, medal Urdd Seren Benin, palmwydden, a llong. Ar ben y darian mae dau gorn llawnder sydd yn cynnwys tywys indrawn, yn symbol o gyfoeth y tir. O dan y darian mae sgrôl yn dwyn yr arwyddair cenedlaethol: Fraternité, Justice, Travail.[1]

Arfbais Benin

Cyfeiriadau golygu

  1. Siobhán Ryan et al. Complete Flags of the World (Llundain: Dorling Kindersley, 2002), t. 89.