Arfbais São Tomé a Príncipe

Tarian ar ffurf coden goco a gynhelir gan hebog ar y chwith a pharot ar y dde yw arfbais São Tomé a Príncipe. Ar y darian darlunir palmwydden goco ac ar ei phen mae seren las i gynrychioli rhyddid a sgrôl yn dwyn enw llawn y wladwriaeth. Saif y cynheiliaid ar sgrôl yn dwyn yr arwyddair cenedlaethol: Unidade, Disciplina, Trabajo.[1]

Arfbais São Tomé a Príncipe

Cyfeiriadau golygu

  1. Siobhán Ryan et al. Complete Flags of the World (Llundain: Dorling Kindersley, 2002), t. 93.