Tarian sydd yn seiliedig ar y faner genedlaethol a gynhelir gan ddau lewpart dywal yw arfbais Somalia. Maes glas gyda seren wen yn ei ganol yw'r darian, a amgylchynir gan fordor aur gyda choron ricynnog. Saif y llewpartiaid ar ddwy waywffon wedi eu croesi a rhuban hir yn hongian arnynt, a thros ddwy ddeilen balmwydd wedi eu croesi.[1]

Arfbais Somalia

Cyfeiriadau golygu

  1. Siobhán Ryan et al. Complete Flags of the World (Llundain: Dorling Kindersley, 2002), t. 67.