Tarian sydd yn darlunio bwyell ac hof wedi eu croesi, a gynhelir gan ddau lew wyneblawn yw arfbais y Gambia. Symbolau o'r ddwy grŵp ethnig fwyaf yn y wlad yw'r arfau amaethyddol, ac mae'r ddau gynhaliad hefyd yn eu dal: y llew chwith yn dwyn bwyell, arwydd y Fulani, a'r llew dde yn dal hof i gynrychioli'r Mandinka. Amgylchynir y darian las gan fordor mewnol gwyn ac allanol gwyrdd, o dan helmed gribog ac arni dusw o ddail yr oel-balmwydden. Saif y llewod ar rhuban sydd yn dwyn yr arwyddair cenedlaethol: Progress, Peace, Prosperity. Mabwysiadwyd yr arfbais ym 1964, cyn i'r wlad ennill ei hannibyniaeth ar 18 Chwefror 1965.[1]

Arfbais y Gambia

Cyfeiriadau golygu

  1. Siobhán Ryan et al. Complete Flags of the World (Llundain: Dorling Kindersley, 2002), t. 79.