Yr argyfwng Bwdhaidd
(Ailgyfeiriad o Argyfwng Bwdhaidd)
Cyfnod o densiwn gwleidyddol a chrefyddol yn Ne Fietnam o fis Mai 1963 hyd Dachwedd 1963 oedd yr argyfwng Bwdhaidd a welodd gormes gan y llywodraeth genedlaethol, dan yr Arlywydd Ngô Đình Diệm, ac ymgyrch o wrthsafiad sifil gan fynachod Bwdhaidd. Digwyddodd yn ystod cyfnod cynnar Rhyfel Fietnam, tra yr oedd llywodraeth De Fietnam hefyd yn brwydro'n erbyn gwrthryfel y Vietcong.
Enghraifft o'r canlynol | religious controversy, argyfwng gwleidyddol |
---|---|
Dechreuwyd | 7 Mai 1963 |
Daeth i ben | 2 Tachwedd 1963 |
Lleoliad | De Fietnam |
Yn cynnwys | Huế Phật Đản shootings, Huế chemical attacks, Cwffio 7 Gorffennaf 1963, Xá Lợi Pagoda raids, Cable 243, Krulak Mendenhall mission, McNamara Taylor mission, Coup d'état De Fietnam, arrest and assassination of Ngo Dinh Diem |
Llinell amser
golygu- 8 Mai: Protest gan Fwdhyddion yn Huế yn erbyn gwaharddiad ar y faner Fwdhaidd. Bu farw wyth person wedi i'r heddlu a'r fyddin saethu ar y dorf.
- 30 Mai: Gwrthdystiad gan 500 o fynachod Bwdhaidd y tu allan i'r Cynulliad Cenedlaethol yn Saigon.
- 3 Mehefin: Anfonwyd 67 o brotestwyr i'r ysbyty wedi i heddlu a milwyr dywallt cemegion dros eu pennau tra yr oeddent yn gweddïo yn Huế.
- 11 Mehefin: Hunanlosgodd Thích Quảng Ðức yn Saigon mewn protest.
- 7 Gorffennaf: Ffrae rhwng heddlu cudd Ngô Ðình Nhu, brawd yr arlywydd, a charfan o newyddiadurwyr Americanaidd.
- 18 Awst: Protest gan 15,000 o bobl ger Pagoda Xa Loi.
- 21 Awst: Daeth rheolaeth filwrol i rym ar orchmynion Diệm. Cyrchoedd ar bagodâu Bwdhaidd ar draws De Fietnam. Arestiwyd dros 1400 o Fwdhyddion, a lladdwyd cannoedd.
- 24 Awst: Danfonwyd "Cebl 243" at Henry Cabot Lodge, Jr., llysgennad yr Unol Daleithiau i Dde Fietnam, o weinyddiaeth yr Arlywydd Kennedy gan gynghori Lodge i gefnogi ddymchwel y teulu Nhu.
- 1–2 Tachwedd: Coup d'état gan Fyddin Gweriniaeth Fietnam yn erbyn Diệm.