Argyfwng gwystlon Iran
Argyfwng diplomyddol rhwng Iran a'r Unol Daleithiau oedd argyfwng gwystlon Iran. Cafodd 52 o ddiplomyddion Americanaidd eu dal fel gwystlon am 444 o ddiwrnodau o 4 Tachwedd, 1979 i 20 Ionawr, 1981 ar ôl i grŵp o fyfyrwyr Islamiaeth eu hideoleg meddiannu'r llysgenhadaeth Americanaidd mewn symbol o gefnogaeth i'r Chwyldro Islamaidd.

Dyn yn dal arwydd yn ystod protest yn sgîl yr argyfwng yn Washington, D.C. ym 1979. Mae'r arwydd yn darllen "Deport all Iranians" a "Get the hell out of my country" ar y blaen, a "Release all Americans now" ar y cefn.