Arllwysiad olew Deepwater Horizon

Dechreuodd arllwysiad olew Deepwater Horizon o ganlyniad i ffrwydrad ar rig ddrilio olew Deepwater Horizon yng Ngwlff Mexico ar 20 Ebrill 2010. Erbyn dechrau Mehefin 2010, roedd eisoes ymhlith yr arllwysiadau olew mwyaf erioed, gyda rhwng 3,200,000 a 6,400,000 litr y dydd o olew yn cael ei arllwys i ddyfroedd y Gwlff.

Arllwysiad olew Deepwater Horizon
Math o gyfrwngArllwysiad olew, environmental disaster, gwrthdaro amgylcheddol Edit this on Wikidata
Dyddiad15 Ebrill 2010 Edit this on Wikidata
Lladdwyd11 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd20 Ebrill 2010 Edit this on Wikidata
LleoliadGwlff Mecsico Edit this on Wikidata
Map
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Deepwater Horizon yng Ngwlff Mecsico 2010. Y llif olew mwyaf yn hanes yr Unol Daleithiau.

Roedd Deepwater Horizon yn drilio mewn rhan o'r Gwlff lle mae'r môr yn cyrraedd dyfnder o tua 1,500 medr. Credir fod y broblem wedi deillio o fethiant falf, a lladdwyd 11 o weithwyr ar y rig yn y ffrwydrad a ddilynodd. Rhwng diwedd Ebrill a dechrau Mehefin, defnyddiodd cwmni olew BP nifer o ddulliau gwahanol i geisio atal y llif o olew, ond er fod y llif wedi lleihau, roedd olew yn parhau i arllwys ganol Mehefin. Bu cryn ddifrod i fywyd gwyllt a physgodfeydd ar draethau gogleddol y Gwlff, yn arbennig yn nhalaith Louisiana yn yr Unol Daleithiau. Cyhoeddodd llywodraeth yr Unol Daleithiau y bydd cwmni BP yn cael ei ddal yn gyfrifol am y costau sy'n deillio o'r arllwysiad.

Eginyn erthygl sydd uchod am yr amgylchedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato