Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth

Arolwg wyneb-yn-wyneb yw Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (yr ABoB), arolwg o tua 300,000 o bobl ar draws y Deyrnas Gyfunol. Y Swyddfa Ystadegau Gwladol sy'n gweithredu'r arolwg hwn, a hynny ers 2004.[1] Yn ei adroddiad, mae'n cyfuno'r canlynol: Arolwg y Llafurlu (LFS), Arolwg o lafurlu Cymru, Lloegr a'r Alban sy'n cael eu hariannu gan yr Adran Addysg a Sgiliau (DfES), yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth yr Alban.[2]

Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth

Mae'r arolwg yn ymwneud â phynciau fel cyflogaeth, tai, ethnigrwydd, iechyd ac addysg yng Nghymru. Ceir cwestiynau hefyd am allu pobl o ran y Gymraeg, a pha mor aml y maent yn ei siarad.

Mae pob set o ddata'n cynnwys 12 o ddata. Ar gyfer pob set, mae'r niferoedd o bobl oddeutu 170,000 o gartrefi a 360,000 unigolyn. Gellir lawrlwytho'r data o UK Data Service.

Hanes golygu

Cyhoeddwyd data'r APS gyntaf yng Ngorffennaf 2005, gan gynnwys data a gasglwyd rhwng Ionawr a Rhagfyr 2004. Ers hynny, mae'r data wedi cael ei gyhoeddi'n chwarterol ond gyda phob set ddata yn ymwneud â blwyddyn gyfan. Rhwng Ionawr 2004 a Rhagfyr 2005, cyflwynwyd sampl ychwanegol, a elwir yn "hwb" (Saesneg: boost) yr APS, ond daeth i ben yn 2006 oherwydd diffyg cyllid.

Cymru golygu

2001-2018 golygu

Yn ei adroddiad: Canlyniadau mewn perthynas â’r Gymraeg: Yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, 2001- 2018 cyhoeddwyd fod tua 35,000 o bobl yn cael eu cynnwys yn yr arolwg bob blwyddyn ac mae'r cwestiynau canlynol wedi'u cynnwys am y Gymraeg i'r rhai sy'n dair oed neu'n hŷn:[3]

  1. Ydych chi’n deall Cymraeg llafar?
  2. Ydych chi’n gallu siarad Cymraeg?
  3. Ydych chi’n gallu darllen Cymraeg?
  4. Ydych chi’n gallu ysgrifennu Cymraeg?
  5. Pa mor aml ydych chi’n siarad Cymraeg?

Adroddodd yr ABoB fod 898,700 o bobl tair oed neu hŷn (neu 29.9%) yn dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg, yn y flwyddyn a ddaeth i ben yn Rhagfyr 2018.

Mae'r siart ganlynol, a gyhoeddir yn yr adroddiad, yn dangos bod nifer y bobl sy’n dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg wedi cynyddu’n raddol ers bob blwyddyn ers mis Mawrth 2010 (25.2%, 731,000), ar ôl dirywiad cyson o 2001 i 2007. Dengys y canlyniadau diweddaraf bod canran y siaradwyr Cymraeg wedi codi’n ôl i’r hyn a ddywed yr ABoB yn 2001 (pan oedd 30.0%, neu 834,500 o bobl yn dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg).

Dyma'r nifer fwyaf erioed o siaradwyr Cymraeg a gafwyd yn yr ABoB. Er bod data arolygon yn gallu amrywio o chwarter i chwarter, mae canlyniadau’r ABoB yn dangos cynnydd cyson dros y blynyddoedd diwethaf, sy'n dangos y gallai nifer y bobl sy'n dweud eu bod yn siarad Cymraeg fod yn cynyddu.

 
Siaradwyr Cymraeg dros 3 oed 2001 i 2018

Cyfeiriadau golygu

  1. Bwletin Ystadegol Llywodraeth Cymru; 29 MAi 2019; rhagarweiniad; adalwyd 4 Mehefin 2019.
  2. "APS user guide". Office for National Statistics. Cyrchwyd 16 Medi 2009.
  3. Bwletin Ystadegol Llywodraeth Cymru; 29 MAi 2019; tud. 3; adalwyd 4 Mehefin 2019.

OGL: Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun a drwyddedwyd ar Drwydded Llywodraeth Agored: -->