Arwel Hughes
cyfansoddwr a aned yn 1909
Arweinydd cerddorfa a chyfansoddwr clasurol o Gymru oedd Arwel Hughes (25 Awst 1909 – 23 Medi 1988).
Arwel Hughes | |
---|---|
Ganwyd | 25 Awst 1909 Rhosllannerchrugog |
Bu farw | 23 Medi 1988 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arweinydd, cyfansoddwr |
Gwobr/au | OBE |
Cafodd ei eni yn Rhosllannerchrugog. Roedd yn dad i Owain Arwel Hughes.
Astudiodd 'Cyfansoddi' gyda Ralph Vaughan Williams, Gustav Holst a Prof. Kitson yng Ngholeg Cerddoriaeth Brenhinol Llundain.
Wedi iddo ddychwelyd i Gymru cafodd swydd yn y BBC ym 1935 a bu'n chwarae rhan bwysig yn natblygiad radio a theledu yng Nghymru. Chwaraeodd yntau ran bwysig yn natblygiad Gerddorfa Genedlaethol y BBC a hefyd Gwmni Opera Cenedlaethol Cymru. Ym 1965 fe wnaethpwyd ef yn Bennaeth Cerdd y BBC yng Nghymru tan ei ymddeoliad yn 1971.
Cafodd OBE gan Frenhines Lloegr am ei wasanaethau i gerddoriaeth yng Nghymru yn 1969.
Llyfryddiaeth
golygu- Y Blwch (Cwmni Cyhoeddi Gwynn, 1984)
Cerddoriaeth
golyguOpera
golyguCerddorfa
golygu- Fantasia (1936)
- Anatiomaros (1943)
- Prelude for Orchestra (1945)
- Suite (1947)
- Saint Francis (1965)
- Symffoni (1971)
- Legend: Owain Glyndŵr, 1979