Asiantaeth weithredol
Mae asiantaeth weithredol yn rhan o adran o Lywodraeth y Deyrnas Unedig sy'n gyfrifol am rai o swyddogaethau gweithredol yr adran ond sy’n ar wahân i’r adran o ran ei rheolaeth a chyllideb. Mae gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon asiantaethau o'r fath hefyd.
Math | executive agency ![]() |
---|---|
Rhan o | Adrannau Llywodraeth y Deyrnas Unedig ![]() |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Mae asiantaethau gweithredol yn wahanol i adrannau anweinidogol y Llywodraeth a chyrff cyhoeddus anadrannol (neu "cwangos"), sydd wedi'u gwahanu'n gyfreithiol a chyfansoddiadol oddi wrth reolaeth weinidogol.
Mae asiantaethau gweithredol niferus y DU yn cynnwys y cyrff canlynol:
- Asiantaeth Ofod y Deyrnas Unedig
- Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau
- Cofrestrfa Tir Ei Fawrhydi
- Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol
- Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydydi
- Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi
- Swyddfa Ystadegau Gwladol
- Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus
- Yr Archifau Cenedlaethol
- Y Swyddfa Dywydd