Asid organig, crisialaidd-gwyn ydy asid tartarig. Fe'i ceir yn hollol naturiol mewn planhigion yn enwedig grawnwin, banana a tamarind; dyma un o'r prif asidau a ganfyddir mewn gwinoedd. Fe'i hychwanegir i fwydydd eraill er mwyn rhoi blas sur, fel ocsidant. Enw arall ar halenau asid tartarig ydy 'tartradau' ('tartrates' yn saesneg).

Asid tartarig
Enghraifft o'r canlynolpar o enantiomerau Edit this on Wikidata
Mathaldaric acid, fatty acid Edit this on Wikidata
Màs150.016438 uned Dalton Edit this on Wikidata
Fformiwla gemegolC₄h₆o₆ edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
dde
Ceir asid tartarig mewn gwin

Daeth yr asid hwn i amlygrwydd yn gyntaf ym Mhersia yn 800 O.C. Jabir ibn Hayyan, mae'n debyg. Mae'r dull modern o gynhyrchu'r asid hwn yn mynd yn ôl i 1769 gan Carl Wilhelm Scheele o Sweden. Yn 1832 arbrofodd Louis Pasteur gyda'r asid hwn, yn enwedig siap y crisialau mae'n ei ffurfio.