Swydd a safle academaidd mewn prifysgolion a sefydliadau ymchwil yw athro cadeiriol neu athro prifysgol. Bydd darlithydd sy'n codi yn y rhengoedd yn troi'n uwch ddarlithydd, ac wedyn yn ddarllenydd cyn cyrraedd uchafbwynt academaidd fel athro. Fel arfer, bydd athro yn arbenigwr yn eu maes ymchwil ac yn cael eu cydnabod fel addysgwyr ar y lefel uchaf. Yng nghyd-destun athro cadeiriol, defnyddir athro (nid athrawes) i gyfeirio at ferched a dynion. Cydnabyddir statws athro drwy ei ddefnyddio fel teitl o flaen eu henw, e.e. Yr Athro Angharad Price.[1]

Ystyrir ei bod yn bwysig cael athro mewn adran brifysgol.[2] Gellir dyfarnu cadeirydd anrhydeddus i rywun nad yw'n gweithio yn y brifysgol ond sy'n gallu cyfrannu gwybodaeth arbenigol.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Yr Athro Angharad Price yn ennill categori'r Dramodydd Gorau". Prifysgol Bangor. 27 Chwefror 2017. Cyrchwyd 1 Mai 2021.
  2. "Prifysgol Aberystwyth "ar fin" penodi Athro i'r Adran Gymraeg". Golwg360. Cyrchwyd 1 Mai 2021.
  3. "Ymchwilydd Rhyngwladol Nodedig a Chynghorwr Iechyd Cyhoeddus yn Derbyn Cadaer er Anrhydedd". Prifysgol Bangor. Cyrchwyd 1 Mai 2021.

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am addysg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato