August Heinrich Hoffmann von Fallersleben
Bardd ac ysgolhaig o'r Almaen oedd August Heinrich Hoffmann von Fallersleben (2 Ebrill 1798 - 19 Ionawr 1874). Ysgrifennai hefyd dan yr enw Hoffmann von Fallersleben. Fe'i cofir heddiw yn bennaf fel awdur geiriau "Das Lied der Deutschen", a ddaeth yn anthem genedlaethol yr Almaen. Ysgrifennodd sawl cerdd i blant hefyd.
August Heinrich Hoffmann von Fallersleben | |
---|---|
Ganwyd | August Heinrich Hoffmann 2 Ebrill 1798 Fallersleben |
Bu farw | 19 Ionawr 1874 Princely Abbey of Corvey |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Prwsia |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | bardd, llyfrgellydd, llenor, chwyldroadwr, cerddolegydd, ethnomiwsigolegydd, awdur plant, curadur, academydd |
Cyflogwr | |
Tad | Heinrich Wilhelm Hoffmann |
Mam | Dorothea Hoffmann |
Priod | Ida vom Berge |
Plant | Franz Hoffmann-Fallersleben |
Gwobr/au | Gold medal of the Royal proof of gratitude |
Gwefan | https://www.von-fallersleben.de |
Cyfansoddodd von Fallersleben "Das Lied der Deutschen" ar 26 Awst 1841 gan ar ynys Helgoland i gydfynd ag alaw gan Joseph Haydn. Cynhaliwyd perfformiad cyhoeddus cynta'r gân ar 5 Hydref 1841 yn Hamburg.
Roedd von Fallersleben yn awdurdod mawr yn ei ddydd ar yr iaith Almaeneg a hanes llenyddiaeth Almaeneg.
Dolenni allanol
golygu- (Almaeneg) Project Gutenberg Detholiad o gerddi yn yr Almaeneg wreiddiol.