Awdur Cymreig o Aberhonddu yw B. Siân Reeves. Mae'n adnabyddus am y gyfrol Nest a gyhoeddwyd 23 Mehefin, 2009 gan: Gwasg Gomer.[1]

B. Siân Reeves
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethllenor Edit this on Wikidata

Mae B. Siân Reeves yn byw yn Aberhonddu, ac mae'n gweithio i Gyngor Dinas Caerdydd. Dechreuodd ysgrifennu o ddifri ar ôl ennill cystadleuaeth Stori Fer Radio Cymru, ac yna Cystadleuaeth Stori Fer Eisteddfod Genedlaethol Eryri. Mae wedi cyhoeddi stori fer yng nghylchgrawn llenyddol Taliesin ac enillodd Ysgoloriaeth yr Academi i ysgrifennu'r nofel hon.

Llyfryddiaeth

golygu
  • Nest (Gwasg Gomer, 2009)

"..heb os, mae ‘na berffeithrwydd melys yn perthyn i’r nofel hon."

Sarah Down, Gwefan Gwales.com.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan Gwales; adalwyd 8 Chwefror 2015


Gwybodaeth o Gwales

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o fywgraffiad yr awdur B. Siân Reeves ar wefan Gwales, sef gwefan gan Cyngor Llyfrau Cymru. Mae gan yr wybodaeth berthnasol drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.

  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.