Loch Baghasdail

(Ailgyfeiriad o Baghasdail)

Baghasdail (Saesneg: Lochboisdale) yw pentref a phorthladd ar ynys Uibhist a Deas un o ynysoedd allanol Heledd, Yr Alban. Lleolir y pentref ar lan Loch Baghasdail ar ben y ffordd A865.[1]Mae ardal y pier wedi cael ei thrawsffurfio; mae hen adeiladau wedi cael eu atgyfnewid neu ddisodlwyd gan adeiladau newydd.

Tai newydd
Ger y porthladd

Mae Gwesty Baghasdail ger terminal y fferiau. Mae’r holl bentref yn agos i’r pier. Mae swyddfa’r post, siop coffi a chaffi. Mae banc hefyd, er bod o’n agor ond unwaith bob wythnos. Mae siop cyffredinol o’r enw Fàilte ger y pier. Mae Datblygiad Baghasdail Cyf wedi agor harbwr newydd ar ynys Gasaigh, tua cilomedr o’r pentref gyda lle i angori a chyfleusterau i ymwelwyr.

Daeth Baghasdail yn gyfoethog trwy bysgota am bennog yn ystod y 19eg ganrif. Adeiladwyd pier a chapel. Erbyn 1953, aeth cychod yn rheolaidd rhwng Baghasdail, Oban, Castlebay, Malaig a Loch nam Madadh. Erbyn hyn mae fferiau Caledonian Macbrayne yn mynd yn rheolaidd at Malaig, ac i Oban dros y gaeaf.

Cyfeiriadau

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Yr Alban. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato