Mae Ban-de-Laveline yn gymuned yn Département Vosges yn Rhanbarth Dwyrain Mawr, Ffrainc

Ban-de-Laveline
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,183 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolBallons des Vosges Regional Natural Park Edit this on Wikidata
Arwynebedd26.45 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaBertrimoutier, Raves, Sainte-Marie-aux-Mines, Coinches, La Croix-aux-Mines, Gemaingoutte Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau48.2442°N 7.065°E Edit this on Wikidata
Cod post88520 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Ban-de-Laveline Edit this on Wikidata
Map

Lleoliad golygu

Mae cymuned Ban-de-Laveline yn rhychwantu sawl dyffryn bach rhwng mynyddoedd Croix-aux-Mines yn y de, Wisembach i'r dwyrain, Bertrimoutier i’r gogledd a Coinches i'r gorllewin. Mae'r gymuned yn cael ei groesi gan nifer o afonydd, y prif un yw Afon Morte, un o lednentydd Afon Fave, sy'n tarddu yn nhref Croix-aux-Mines.

Mae'n un o'r 188 gymuned sy’n sefyll ym Mharc Naturiol Rhanbarthol Ballons des Vosges.

Mae'r gymuned yn sefyll ar briffordd y D23 sy’n mynd o Raves yn y gogledd i Croix-aux-Mines yn y de. Mae dwy ffordd leol yn cysylltu’r gymuned a Coniches i’r gorllewin a Gemaingoutte yn y gogledd-ddwyrain. Mae Ban-de-Laveline yn ffinio â chwe chymuned yn Vosges: Gemaingoutte, Wisembach, Bertrimoutier, Rave, Coinches, La Croix-aux-Mines ac un gymuned yn Alsace sef Sainte Marie aux Mines, Haut-Rhin.

Poblogaeth golygu

 

Safleoedd a Henebion golygu

  • Eglwys ymgnawdoliad y Forwyn Fair a adeiladwyd ym 1716 ar safle tŷ gweddi yn dyddio o’r 11 neu'r 12 ganrif. Ym 1725 bu i fellten dinistrio'r rhan fwyaf o’r tŵr.[1]
  • Capel St. Clair, Hautgoutte a adeiladwyd ym 1770 gan ddinesydd o Hautgoutte, Nicolas Noël, fel diolch am adennill ei olwg. Saif ffynnon St Clair ger y capel lle fydd pererinion yn golchi eu llygaid gwan yn yr obaith y byddant hwy hefyd yn derbyn iachâd.
  • Groto Notre-Dame-de-Lourdes
  • Olion hen gastell


Pobl enwog o Ban-de-Laveline golygu

Adrien Evrard (1873-1957), Offeiriad.[2] Gustave Morel (1872-1905), offeiriad ac athronydd[3]. Pierre Bastien (1924-2006), meddyg, dyfeisiwr o "protocol Bastien" wrth drin cleifion sydd wedi eu gwenwyno gan Amanita.


Gweler hefyd golygu

Cymunedau Vosges

Cyfeiriadau golygu

  1. "Orgue de l'église de Ban de Laveline". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-09-15. Cyrchwyd 2017-08-17.
  2. Biographie vosgienne Adrien EVRARD
  3. Biographie vosgienne Gustave MOREL
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


  Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrainc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.