Baner ddeuliw gyda stribed chwith gwyrdd a stribed dde gwyn â chilgant a seren goch yn ei chanol yw baner Algeria. Gwyrdd yw lliw Islam, tra bod gwyn yn symboleiddio purdeb a choch yn symboleiddio rhyddid. Symbol Islamaidd yw'r cilgant a'r seren, ac mae'r cilgant yn fwy caeedig nag ar faneri gwledydd Mwslemaidd eraill gan gredai Algeriaid bod y cyrn hirion yn dod â hapusrwydd. Mabwysiadwyd ar 3 Gorffennaf 1962.

Baner Algeria

Ffynhonnell

golygu
  • Znamierowski, Alfred. The World Encyclopedia of Flags (Llundain, Southwater, 2010).