Baner Bwrwndi

baner

Mabwysiadwyd baner Bwrwndi ar ôl annibyniaeth y wlad o Wlad Belg ar 1 Gorffennaf 1962. Aeth drwy sawl diwyg ac erbyn hyn mae croes sawtyr wen yn rhannu'r llain yn barthau coch a gwyrdd. Mae canol y saltir yn ymuno i greu disg gwyn, gyda tair seren goch chwech pegwn wedi'i amlinellu mewn gwyrdd. Y gymhareb gyfredol yw 3: 5, a newidiwyd o 2: 3 tan 27 Medi 1982.[1]

Baner gyfredol Bwrwndi, cymesuredd 2:3

Symboliaeth golygu

Rhennir y faner yn bedair rhan gan groes sawtyr wen. Mae'r rhannau uchaf ac isaf yn lliw coch, tra bod y rhai chwith a'r dde yn lliw gwyrdd. Mae lliw gwyn y sawtyr yn cynrychioli heddwch, mae gwyrdd yn cynrychioli gobeithion y genedl a roddir ar ddatblygiad yn y dyfodol ac mae coch yn symboli dioddefaint y genedl yn ystod ei brwydr tuag at ryddid. [2] Mae'r tair seren mewn cyfluniad triongl yn sefyll ar gyfer y tri grŵp ethnig mawr o Burundi: y Hutu, y Twa a'r Tutsi.[2] Mae'r tair seren hefyd yn sefyll ar gyfer tair elfen yr arwyddair cenedlaethol: Unité, Travail, Progrès ("Undeb, Gwaith a Blaengarwch"), y gellir eu gweld ar arfbais Burundi.[3] Maent hefyd yn cynrychioli'r teyrngarwch mae dinasyddion y cenhedloedd wedi addo i'w Duw, y brenin a'r wlad.[2]

Hanes y faner golygu

Pan oedd y frenhiniaeth yn dyfarnu dros Burundi roedd y faner yn cynnwys karyenda (drwm ag iddi grym dwyfol).[3] Credir y gellid deall negeseuon y drwm yn unig gan y mwami (rheolwyr) a oedd yn ei datgan cyfreithiau'r wladwriaeth. Yn dilyn diddymu'r frenhiniaeth ym mis Tachwedd 1966, tynnwyd y karyenda oddi ar faner a mabwysiadwyd baner newydd yn fuan wedyn. Disodlwyd y karyenda gan blanhigyn sorghum sy'n gynnyrch amaethyddol pwysig o'r wlad.[2]

Datblygiad Baner Bwrwndi golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Burundi flag". World Flags. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-04-18. Cyrchwyd 15 Medi 2014.
  2. 2.0 2.1 2.2 "flag of Burundi". Encyclopædia Britannica. Cyrchwyd 15 Medi 2014.
  3. 3.0 3.1 Guide to the Flags of the World by Mauro Talocci, revised and updated by Whitney Smith (ISBN 0-688-01141-1), p. 153.

Dolenni allanol golygu