Baner Ciribati

baner

Crëwyd baner Ciribai neu o'i ffurf swyddogol yn Saesneg, Kiribati yn wreiddiol fel arfbais yn 1937 gan Syr Arthur Grimble, comisiynydd preswyl Ynysoedd Gilbert ac Ellice, yr hen enw Brydeinig ar y cadwyn o ynysoedd. Mabwysiadwyd yr arfbais ar ffurf baner genedlaethol Ciribati ar 12 Gorffennaf 1979 yn sgil cyhoeddi'r wladwrieth yn weriniaeth.

Cymesured, 1:2
Baner Kiribati

Disgrifiad golygu

Mae'r faner yn cynrychioli gwawriad haul (otintaai), gydag aderyn ffrigad (te eitei) yn hedfan uwchlaw tonnau'r Môr Tawel. Gwelir 17 pelydr gan yr haul, symbol o'r 16 o ynysoedd Gilbert ac ynys Banaba. Rhennir tonnau'r Môr Tawel yn dair rhan, fel y tair archipelagws yn y Wladwriaeth - Gilbert, Phoenix ac Ynysoedd y Cyhydoedd. Mae'r frigate (Fregata minor), sy'n cynrychioli cennad traddodiadol ac uchel ei barch, yn aderyn eiconig brodorion yr ynysoedd, yr I-Kiribati fel y galwant eu hunain.

Os mai'r fersiwn a gyflwynir yn fwyaf aml, ceir hefyd fersiwn lle mae pelydrau'r haul yn fwy niferus (21 neu hyd yn oed 22 yn hytrach na'r 17 traddodiadol) i gymryd i ystyriaeth bod 21 o ynysoedd yn y Weriniaeth bellach (tair ynys o'r Llinell a Canton (Ynysoedd y Ffenics).

Dogfennaeth y Dyluniad golygu

Mewn llythyr at yr Uchel Gomisiynydd Prydain dros Orllewin y Môr Tawl (yn Suva) a ysgrifennwyd gan Syr Arthur Grimble, fe'i hysgrifennwyd am arfbais y drefedigaeth a rhoddwyd nodiadau gyda'i arluniad (mewn italig yn y Saesneg wreiddol):[1]

  • Môr. Yn cynrychioli gofod y cefnfor lle mae'r nythfa wedi'i hynysu."The sea is the Pacific Ocean which surrounds Kiribati"
  • Haul. Mae'r ynysoedd yn agos at y 180 ° Meridian. Mae'r haul yn codi neu'n gosod. "The rising sun is the tropical sun as Kiribati lies astride the Equator"
  • Adar. Mae'r fflint (Fregata aquilla (sic)) yn symbol o bŵer, peri a rhyddid. I frodorion, mae'n arwydd o sofraniaeth a genedigaeth frenhinol ac yn uchel ei barch am hynny. "The bird is a frigate bird which represents power, freedom and Kiribati cultural dance patterns."
  • Deimensiwn: "The dimensions of the flag i.e. the length is twice the breadth."

Diffinnir y lliwiau gan golygu

Aderyn Ffrigad, haul a phelydrau: Aur BSI 381C Rhif 355 a lliw Admirality T 8514M
Awyr: Red BSI 581C Rhif 539, Lliw Morlysedd T 8514H a CA Patrwm AS 2362
Tonnau: Glas BSI 381C Rhif 110 & CA Patrwm AS 2358
Tonnau: Gwyn, lliw Admirality plaen T 8514J & CA Patrwm MP 2363

Baneri Tebyg golygu

Ceir dau faner oedd yn ymdebygu, yn hollol drwy hap, i un Ciribati, sef baneri dau o hen Werinaiethau yr Undeb Sofietaidd, baner Gweriniaeth Sofietaidd Lithwania a baner Gweriniaeth Sofietaidd Estonia. Nid yw'r baneri yma'n cael eu harddel o gwbl ers diddymu'r Undeb Sofietaidd yn 1991 ac i Estonia a Latfia ennill eu hannibyniaeth.

Hen Faner golygu

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) The National Flag of Kiribati, publication du gouvernement en 1984 (2 pages)