Baner Eswatini

baner
(Ailgyfeiriad o Baner Gwlad Swasi)

Mabwysiadwyd baner genedlaethol Eswatini ar 30 Hydref 1967.[1][2] Rhennir yn dri stribed llorweddol: dau stribed glas ar frig a gwaelod y faner, a stribed llydan coch yng nghanol y faner gydag ymyl melyn iddo.[3] Mae coch yn symboleiddio brwydrau'r gorffennol, melyn yn cynrychioli cyfoeth naturiol y wlad, a glas yn symboleiddio heddwch.[1] Yng nghanol y stribed coch mae tarian ddu a gwyn, sef tarian y Gatrawd Emasotha a ffurfiwyd yn y 1920au. Y tu ôl i'r darian mae dau asegai (gwaywffyn Affricanaidd) a ffon ymladd draddodiadol gyda thasel tinjobo a wneir o blu'r aderyn gweddw a'r loury ar naill ochr y ffon.[1] Mae tasel tinjobo hefyd ar y darian.[2] Mae'r darian, y gwaywffyn a'r ffon yn cynrychioli amddiffyn yn erbyn gelynion y wlad. Mae lliwiau'r darian yn symboleiddio heddwch rhwng duon a gwynion yng Nglwad Swasi.[3] 2:3 yw cymhareb y faner hon.[1][2]

Baner Eswatini

Mae'r dyluniad yn seiliedig ar faner a gyflwynwyd i Gorfflu Arloeswyr y Swasi gan y Brenin Sobhuza II ym 1941.[2]

Newid enw'r Wlad golygu

Gelwir y wlad yn swyddogol bellach yn "eSwatini" a chyfeirir at baner eSwatini Yn ystod dathliadau 50 mlwyddiant annibyniaeth y wlad, cyhoeddodd y Brenin Mswati III ei fod yn newid enw'r wlad yn swyddogol y wlad i "Teyrnas eSwatini".[4]

Symbolaeth golygu

Ceir symboliaeth i liw a delweddau'r faner:

Glas - heddwch a sefydlogrwydd
Coch - gwaed coch rhyfeloedd y gorffennol [5]
Melyn - y ffiniau melyn ar gyfer adnoddau naturiol eSwatini
Gwyn a du y darian - cysylltiadau hiliol da, y tri chorff yn symbol o llinell frenhinol y Swazis a'r gwaywffyn y tu ôl y darian i amddiffyn eSwatini rhag ei gelynion

Baner Eraill golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Znamierowski, Alfred. The World Encyclopedia of Flags (Llundain, Anness, 2010), t. 224–5.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 Complete Flags of the World (Llundain, Dorling Kindersley, 2002), t. 105.
  3. 3.0 3.1 (Saesneg) Flag of Swaziland. The World Factbook. CIA. Adalwyd ar 4 Mehefin 2013.
  4. Flags of the World – eSwatini
  5. Greig, Charlotte. The Dictionary of Flags. Grange Books. ISBN 1-840137-58-4

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: