Maes gwyrdd gyda blodyn alaw'r dŵr gwyn arddulliedig yn ei ganol gyda phum seren felen mewn arc uwch ei ben yw baner Macau. Mae'r blodyn yn cynrychioli pobl y diriogaeth, ac mae'r tri phetal yn symboleiddio tair ynys Macau, a daw'r pum seren felen o faner Gweriniaeth Pobl Tsieina. Mae'r bont a'r tonnau o dan y blodyn yn arwyddlun o amgylchedd Macau. Mabwysiadwyd ar 31 Mawrth 1993, a defnyddiwyd yn gyntaf ar 20 Rhagfyr 1999.

Baner Macau

Ffynhonnell golygu

  • Znamierowski, Alfred. The World Encyclopedia of Flags (Llundain, Southwater, 2010).