Baner y Ffindir
Baner o Groes Lychlynnaid las (i gynrychioli'r awyr a'r miloedd o lynnoedd y Ffindir) ar faes gwyn (i gynrychioli'r eira sy'n gorchuddio'r tir yn y gaeaf) yw baner y Ffindir. Mabwysiadwyd ar 29 Mai, 1918, yn sgîl annibyniaeth ar Ymerodraeth Rwsia.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/bc/Flag_of_Finland.svg/250px-Flag_of_Finland.svg.png)
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/2/23/FIAV_100100.svg/23px-FIAV_100100.svg.png)
Ffynonellau
golygu- Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)