Baner yr Iseldiroedd
Baner drilliw â stribedi gorweddol coch, gwyn a glas yw baner yr Iseldiroedd. Hon yw'r faner drilliw hynaf a ddefnyddir hyd heddiw. Defnyddiwyd gyntaf yn ystod gwrthryfel taleithiau'r Iseldiroedd yn erbyn Philip II o Sbaen. Dewiswyd y lliwiau (oren, gwyn a glas ar y pryd) oddi wrth lliwiau arfbais arweinydd y gwrthryfel, Wiliam I Tywysog Orange.
Math o gyfrwng | baner cenedlaethol |
---|---|
Lliw/iau | gloywgoch, gwyn, cobalt |
Dechrau/Sefydlu | 19 Chwefror 1937 |
Genre | horizontal triband, tricolor |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |