Rhestr baneri Cymru

(Ailgyfeiriad o Baneri Cymru)

Dyma restr baneri Cymru. Am faneri eraill a ddefnyddir yng Nghymru yn ogystal â gweddill y Deyrnas Unedig, gweler Rhestr baneri y Deyrnas Unedig. Ceir hefyd: Rhestr o arfbeisiau hanesyddol Cymru a baneri'r Eglwys yng Nghymru.

Y faner genedlaethol golygu

Baner Dyddiad Defnydd Disgrifiad
  c. 1485 (amryw)
1959 (swyddogol)
Baner Cymru, a elwir hefyd yn Ddraig Goch Draig goch ar drithroed (passant) ar faes gwyrdd a gwyn.

Baner Tywysogion Cymru golygu

Baner Dyddiad Defnydd Disgrifiad
  1267-83, 1400au Baner gwreiddiol Tywysog Cymru Baner Teyrnas Gwynedd a ddaeth yn faner Tywysogaeth Cymru yn nheyrnasiad Llywelyn ap Gruffudd. Y llewod yn sefyll ar drithroed (passant).
  13g Baner Dafydd ap Gruffudd, brawd Llywelyn II. Y llewod yn sefyll ar drithroed (passant).
  14eg - 15g - Baner Glyn Dŵr Arfau Gwynedd: llewod yn sefyll ar undroed (rampant), gydag arfau Owain Lawgoch ac Owain Glyn Dŵr

Baneri rhyfel golygu

Baner Dyddiad Defnydd Disgrifiad
  1400 - c.1416 'Y Ddraig Aur': Codwyd hon gan Glyn Dŵr uwch dref Caernarfon ychydig cyn iddo ymosod arni a meddiannu'r dref a'r castell. Un llew aur yn sefyll ar undroed (rampant) (Argent a dragon rampant Or).
  13g 'Y Groes Naid': Baner Rhyfel Llywelyn ap Gruffudd Croes Geltaidd melyn ar faes porffor.

Baneri'r tywysogaethau golygu

Baner Dyddiad Defnydd Disgrifiad
  9ed ganrif - 1212 Baner Powys ac yn ddiweddarach: Powys Wenwynwyn Maes melyn, un llew coch ar ungoes (rampant). Tarddiad: Mathrafal. Or, a lion Gules armed and langed Azure.
  c.1100 - c.1300 Baner Dinefwr a'r Deheubarth Maes melyn, un llew melyn ar ungoes (rampant).
  c.1240 - 1282 Baner personol Llywelyn ap Gruffudd Tri llew coch ar deircoes ar faes gwyn.
  c.1160 - c.1350 Baner Madog ap Gruffudd Maelor ac yna Baner Powys Fadog Lle du ar ungoes ar faes gwyn.

Siroedd (traddodiadol) golygu

Baner Dyddiad Defnydd Disgrifiad
  Mawrth 2014 Baner Sir Fôn Tri llew aur ar ddwy goes (rampant), ar gefndir coch gyda chevrone aur
  2012 Baner Sir Gaernarfon Tair eryr aur mewn rhes ar gefndir gwyrdd
  Heb ei chofrestru Baner Dyfed - mabwysiadur hefyd fel Baner Ceredigion Llew aur ar ddwy goes (regardent), ar gefndir du.
  2013 Baner Morgannwg Tair Chevronels wen ar gefndir coch
  2015 Baner Sir Feirionnydd Tair gafr arian ar ddwy goes (rampant), gyda haul aur ar gefndir glas.
  2011 Baner Sir Fynwy Tair Fleur-de-Lis aur ar gefndir glas a du.
  Heb ei chofrestru Baner Sir Drefaldwyn Tri phen mul arian ar gefndir du.
  2015 Baner Sir y Fflint Croes ddu arf gefndir arian gyda phedwar Brân Goesgoch, un ym mhob cornel.
  1988 Baner Sir Benfro Croes aur ar gefndir glas, gyda rhosyn Tuduraidd coch a gwyn yn y canol.
  - Baner Sir Faesyfed Pen baedd ar gefndir glas a melyn (streips llorweddol).

Baneri eraill golygu

Baner Dyddiad Defnydd Disgrifiad
  1921 - Baner Dewi Sant Croes aur ar faes du
  Baner yr Eglwys yng Nghymru Croes las ar faes gwyn gyda bathodyn yr Eglwys (Croes Geltaidd) yn y canol
  Cynlluniwyd yn 1970 Baner Sir Benfro Croes felen ar faes glas gyda rhosyn Tuduraidd yn y canol
1960au Baner Byddin Rhyddid Cymru 'Yr eryr Wen': symbol o Eryr Eryri.

Baneri'r draddodiad Saesnig golygu

Baner Dyddiad Defnydd Disgrifiad
  1962 - Baner Tywysog Cymru (anfrodorol, Saesnig) yng Nghymru Baner arfbais Tywysogaeth Cymru anfrodorol, Saesnig, sef baner Gwynedd/Tywysogaeth Cymru annibynnol gydag arfbais yn cynrychioli teulu brenhinol Prydain wedi'i gosod yn ei chanol

Gweler hefyd golygu