Bangor, Gogledd Iwerddon

dinas yn Iwerddon
(Ailgyfeiriad o Bangor (Gogledd Iwerddon))

Dinas yn Swydd Down, Gogledd Iwerddon, yw Bangor (Gwyddeleg: Beannchar),[1] gyda phoblogaeth drefol o 76,851 o bobl (Cyfrifiad 2001), sy'n ei gwneud y dref fwyaf poblog yng Ngogledd Iwerddon. Tref glan môr yw hi, a leolir ar lan ddeheuol Belfast Lough yn Ardal Fetropolitan Belfast. Marina Bangor yw un o'r rhai mwyaf yn Iwerddon gyfan, gyda statws Baner Las. Yn 2007, cafodd y dref ei hethol gan wylwyr UTV fel y lle mwyaf deniadol i fyw ynddo yng Ngogledd Iwerddon.

Bangor
Mathdinas Edit this on Wikidata
Poblogaeth61,011 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iVirginia Beach, Virginia, Bregenz Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Down
GwladBaner Gogledd Iwerddon Gogledd Iwerddon
Cyfesurynnau54.66°N 5.67°W Edit this on Wikidata
Map
Am y ddinas yng Ngwynedd gweler Bangor. Am leoedd eraill o'r un enw, gweler Bangor (gwahaniaethu).

Tref breswyl ydyw yn bennaf, a gellid ei hystyried yn dref gomiwter ar gyfer ardal Belffast Fwyaf, a gysylltir â Bangor gan y ffordd A2 a rheilffordd uniongyrchol. Gorwedd Bangor 13.6 milltir (22 km) o ganol dinas Belfast ac yn agos iawn hefyd i Maes Awyr George Best Dinas Belffast.

Harbwr a marina Bangor

Tarddiad yr enw golygu

Enw Gwyddeleg gwreiddiol tref a phlwyf Bangor yw Beannchar. Gwreiddiau Beannchar yw beann, 'pigyn' ac ymddengys i'r enw gyfeirio at loc-palis o fangorwaith o gwmpas y fynachlog gynnar oedd yma ac a sefydlwyd gan Sant Comgall c. 555AD.[2]

Cyfeiriadau golygu