Barbara Taylor Bradford
Nofelydd oedd Barbara Taylor Bradford, OBE (10 Mai 1933 – 24 Tachwedd 2024). Roedd hi'n ysgrifennu yn Saesneg: cafodd ei geni yn Lloegr, ond roedd hi'n byw yn Unol Daleithiau America. Roedd ei nofelau'n gwerthu'n dda, gyda nifer yn werthwyr gorau.
Barbara Taylor Bradford | |
---|---|
Ganwyd | Barbara Taylor 10 Mai 1933 Leeds |
Bu farw | 24 Tachwedd 2024 Dinas Efrog Newydd |
Dinasyddiaeth | Lloegr UDA |
Galwedigaeth | llenor, nofelydd, awdur |
Adnabyddus am | A Woman of Substance |
Arddull | nofel ramant |
Priod | Robert E. Bradford |
Gwobr/au | OBE |
Gwefan | http://www.barbarataylorbradford.com/ |
Barbara Taylor oedd ei henw cyn priodi. Cafodd ei geni yn Armley, Leeds, yn ferch i Freda a Winston Taylor.[1][2] Cafodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Christ Church yn Upper Armley, oedd yn un o ysgolion Eglwys Loegr, a hynny ar yr un pryd â'r awdur Alan Bennett.[3] Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, A Woman of Substance, ym 1979, a gwerthodd dros 30 miliwn o gopïau ledled y byd.[4]
Cyfarfu Taylor â'i gŵr, y cynhyrchydd ffilm Americanaidd Robert E. Bradford, yn 1961, ar ôl i'r sgriptiwr o Loegr, Jack Davies, gyflwyno'r ddau.[3][5] Priodasant yn 1963 a symud yn barhaol i'r Unol Daleithiau.[2]
Daeth yn ddinesydd Unol Daleithiau America. Bu farw yn 91 oed, yn ei chartref yn Manhattan, Dinas Efrog Newydd.[2]
Llyfrau
golyguMae ei llyfr A Woman of Substance yn adrodd hanes cymeriad o'r enw Emma Harte sy'n dechrau gyda dim byd ac yn dod yn gyfalafwraig lwyddiannus. Crewyd cyfres deledu ar sail y llyfr, ac aeth Barbara Taylor Bradford yn ei blaen i ysgrifennu chwe nofel arall am Emma Harte.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Thomson, Liz (25 Tachwedd 2024). "Barbara Taylor Bradford obituary". The Guardian. Cyrchwyd 25 Tachwedd 2024.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 McFadden, Robert D. (25 Tachwedd 2024). "Barbara Taylor Bradford, Whose Sagas Were Best Sellers, Dies at 91". The New York Times. Cyrchwyd 25 Tachwedd 2024.
- ↑ 3.0 3.1 Cooke, Rachel (8 Hydref 2006). "You can never be too rich". The Guardian. Cyrchwyd 21 Chwefror 2014.
- ↑ "Barbara Taylor Bradford". HARDtalk. BBC News. 23 Medi 2009. Cyrchwyd 27 Ionawr 2011.
- ↑ Bradford, Barbara Taylor (22 Rhagfyr 2013). "Barbara Taylor Bradford: my golden husband". The Daily Telegraph. Cyrchwyd 21 Chwefror 2014.