Mae barbeciw neu barbiciw yn ddull o goginio, yr offer neu declyn sy'n cael ei ddefnyddio i goginio, y math o fwyd sydd wedi'i goginio felly, ac yn enw ar gyfer pryd neu ddigwyddiad ble mae'r math hwn o fwyd yn cael ei goginio a'i weini. 

Barbeciw
Enghraifft o'r canlynoldull o goginio, coginio Edit this on Wikidata
Yn cynnwysgrate Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cigoedd yn cael eu barbeciwio mewn bwyty
Barbeciw wedi'i baratoi ym Mhatagonia, yr Ariannin

Technegau golygu

Mae technegau barbeciwio yn cynnwys mygu, rhostio neu bobi, brywsio a grilio. Y dechneg wreiddiol yw coginio gan ddefnyddio mwg ar dymheredd isel a thros gyfnod hir o amser (oriau lawer).

Mae barbeciwio fel arfer yn weithgaredd awyr agored trwy fygu'r cig dros bren neu golosg. Gall barbeciw bwyty gael ei goginio mewn popty mawr o fricsen neu fetel sydd wedi'i ddylunio yn arbennig. Mae barbeciw yn cael ei gynnal mewn nifer o ardaloedd o amgylch y byd ac mae nifer o amrywiaethau rhanbarthol.

Tarddiad enw golygu

Mae'r gair "barbeciw" yn tarddu o'r gair Saesneg barbeque sydd yn ei dro yn tarddu o'r gair Sbaeneg barbacoa. Credir bod y gair hwnnw wedi tarddu o barabicu sydd i'w ganfod yn iaith Arawak pobl y Caribî a phobl Timucua Florida.