Bargyfreithiwr
bargyfreithiwr arbenigol
(Ailgyfeiriad o Bargyfreithwraig)
Yn y gyfraith gyffredin, gŵr y gyfraith neu gwnsler yw bargyfreithiwr[1] sydd yn dadlau wrth y Bar mewn achos cyfreithiol.[2] Mae'n wahanol i'r cyfreithiwr neu'r twrnai sydd yn llunio'r plediadau, yn paratoi'r dystiolaeth, ac yn cynnal materion y tu allan i'r llys.[2]
Yn yr Alban a rhai gwledydd eraill, mae swydd yr adfocad yn debyg i'r bargyfreithiwr.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Lewis, Robyn. Termau Cyfraith (Llandysul, Gwasg Gomer, 1972), t. 20.
- ↑ 2.0 2.1 Black's Law Dictionary (ail argraffiad, 1910), [barrister].