Roedd Randall Burnell 'Barry' Watkins (30 Tachwedd 192120 Mehefin 2004) yn chwaraewr pêl-droed a chwaraeodd yng Nghynghrair Pêl-droed Lloegr fel aelod o dîm Bristol Rovers ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Barry Watkins
Ganwyd30 Tachwedd 1921 Edit this on Wikidata
Bedlinog Edit this on Wikidata
Bu farw20 Mehefin 2004 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethpêl-droediwr Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auBristol Rovers F.C. Edit this on Wikidata
Saflemewnwr Edit this on Wikidata

Wedi ei eni ym Medlinog, bu Watkins yn chware pêl-droed lleol i Ferthyr a Bedlinog cyn ymuno â Wolverhampton Wanderers fel chwaraewr llanw amatur dros gyfnod rhyfel ym 1939. Tua diwedd y rhyfel ymunodd â Bristol Rovers, eto fel amatur llanw, cyn dod yn chwaraewr proffesiynol rhan amser gyda'r clwb ym mis Hydref 1945. Aeth ymlaen i wneud 116 o ymddangosiadau gynghrair i Rovers gan sgoriodd saith gôl, gan chwarae yn safleoedd y mewnwr a'r cefnwr cyn ymddeol o bêl-droed yn 1957, yn 35 mlwydd oed.

Cyfunodd ei swydd fel chwaraewr proffesiynol rhan amser gyda swydd yn adran peiriannau Cwmni Awyrennau Bryste yn Patchway. Bu farw ym mis Mehefin 2004.[1]

Chwaraeodd tad-yng-nghyfraith Watkins, Albert Osborne, i Rovers a'u prif wrthwynebwyr lleol, Bristol City cyn y rhyfel byd cyntaf, a bu ei fab yng nghyfraith, Richard Crabtree, yn gôl geidwad y clwb yn y 1970au cynnar.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "'Barry' Watkins passes away". Bristol Rovers Football Club. 17 November 2004. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 July 2011. Cyrchwyd 2 March 2010. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)

Ffynnonnellau golygu

  • Jay, Mike; Byrne, Stephen (1994). Pirates in Profile: A Who's Who of Bristol Rovers Players. Bristol: Potten, Baber & Murray. t. 281. ISBN 0-9524835-0-5.
  • Byrne, Stephen; Jay, Mike (2003). Bristol Rovers Football Club - The Definitive History 1883-2003. Stroud: Tempus. t. 507. ISBN 0-7524-2717-2.