Barcelona

prifddinas Catalwnia
(Ailgyfeiriad o Barselona)

Dinas Barcelona (dyweder "Barselona") yw prifddinas cymuned ymreolaethol Catalwnia a thalaith Barcelona yng ngogledd-ddwyrain Sbaen, Saif ar lan Môr y Canoldir, rhyw 120 km o'r ffin a Ffrainc. Mae wedi'i leoli rhwng aberoedd afonydd Llobregat a Besòs, a'i ffin orllewinol yw mynyddoedd Serra de Collserola sydd a'i gopa uchaf yn 512 metr (1,680 tr) o uchter.

Barcelona
Mathbwrdeistref yng Nghatalwnia Edit this on Wikidata
PrifddinasBarcelona Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,660,122 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethJaume Collboni Cuadrado Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
NawddsantVirgin of Mercy Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Catalaneg, Sbaeneg, Ocsitaneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolBarcelona metropolitan area, Red de Juderías de España Edit this on Wikidata
SirBarcelonès Edit this on Wikidata
GwladBaner Catalwnia Catalwnia
Baner Sbaen Sbaen
Arwynebedd101.3 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr9 metr Edit this on Wikidata
GerllawY Môr Canoldir, Besòs, Afon Llobregat Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaCerdanyola del Vallès, Molins de Rei, Montcada i Reixac, El Prat de Llobregat, Sant Feliu de Llobregat, Santa Coloma de Gramenet, Esplugues de Llobregat, l'Hospitalet de Llobregat, Sant Just Desvern, Sant Cugat del Vallès, Sant Adrià de Besòs Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau41.3825°N 2.1769°E Edit this on Wikidata
Cod post08001–08042 Edit this on Wikidata
Corff gweithredolCyngor Dinas Barcelona Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
maer Barcelona Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethJaume Collboni Cuadrado Edit this on Wikidata
Map
EsgobaethRoman Catholic Archdiocese of Barcelona Edit this on Wikidata
Mae'r erthygl yma am ddinas Barcelona. Am y tîm pel-droed, gweler FC Barcelona.

Gyda phoblogaeth o 1,593,075, Barcelona yw'r ail ddinas fwyaf yn Sbaen o ran maint, a'r 11eg o ran maint yn yr Undeb Ewropeaidd (disgwylir fod y ddegfed o ran maint ar ôl Brexit). Mae poblogaeth Ardal Ddinesig Barcelona yn 4.7 miliwn.[1]

Cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau o bwysigrwydd rhyngwladol ym Marcelona, yn cynnwys Arddangosfeydd Rhyngwladol yn 1888 a 1929, y Chwaraeon Olympaidd yn 1992 a Fórum 2004 yn 2004. Mae hefyd yn ganolfan ffasiwn, addysg a masnach.[2]

Mae gan Barcelona ddiwylliant cyfoethog ac amrywiol, a chaiff ei hystyried yn un o brif ganolfannau diwylliant ac yn un o gyrchfanau mwyaf poblogaidd Ewrop i ymwelwyr. Yma y ceir rhai o weithiau pensaernïol gorau'r byd, gan gynnwys gwaith y ddau bensaer Antoni Gaudí a Lluís Domènech i Montaner, a ddynodwyd gan UNESCO yn Safleoedd Treftadaeth y Byd.

Hanes golygu

Mae gweddillion o ddiwedd y cyfnod Neolithig wedi eu darganod, ond yr hanes cyntaf am Barcelona yw fel sefydliad Iberaidd. Cipiwyd y ddinas gan y cadfridog Carthaginaidd Hamilcar Barca, tad Hannibal. Yn ystod yr Ail Ryfel Pwnig cipiwyd y ddinas gan y Rhufeiniaid a'i henwi yn Julia Augusta Paterna Faventia Barcino yn y flwyddyn 218 C.C.

Yn y 5g daeth yn brifddinas teyrnas y Visigothiaid yn Sbaen, ac yn yr 8g daeth dan reolaeth Islamaidd wedi ei chipio gan Al-Hurr. Ail-gipiwyd y ddinas gan y Cristionogion yn 801, ond parhaodd ymosodiadau Islamaidd, a dinistriwyd llawer o'r ddinas yn 985 gan filwyr Almanzor. Daeth y ddinas yn llewyrchus iawn yn y 13g, ond o'r 15g bu dirywiad. Tua diwedd y 18g dechreuodd diwydiant dyfu yma, a bu deffroad economaidd a diwylliannol yn y 19g.

Yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen yr oedd y ddinas ar ochr y Gweriniaethwyr, ond yn y diwedd fe'i cipiwyd gan fyddin Franco yn 1939. Wedi marwolaeth Franco, bu datblygiadau economaidd a diwylliannol pellach yn y ddinas, yn enwedig o ganlyniad i gynnal y Chwaraeon Olympaidd yno yn 1992.

Tarddiad yr enw golygu

Ceir yr enghraifft cynharaf o'r enw ar ddarn arian, ac fe'i sgwennwyd mewn ysgrifen Iberaidd hynafol fel Barkeno ( ),[3] ac mewn llawysgrifau Groegaidd fel Βαρκινών, Barkinṓn;[4][5] ac mewn Lladin fel Barcino,[6] Barcilonum[7] a Barcenona.[8][9][10]

Mannau o ddiddordeb golygu

 
Y Sagrada Família

Mae dau Safle Treftadaeth y Byd ym Marcelona:

  • Gweithiau Antoni Gaudí (Park Güell a Palau Güell, Casa Milá, Casa Batlló, casa Vicens a'r Sagrada Família).
  • Y Palau de la Música Catalana a'r Hospital de Sant Pau.

Ymfudiad golygu

Y grwpiau mwyaf o ymfudwyr yn Barcelona[11]
Cenedligrwydd Poblogaeth (2016)
  Yr Eidal 26,676
  Pacistan 19,160
  Gweriniaeth Pobl Tsieina 18,434
  Ffrainc 13,506
  Moroco 12,537
  Bolifia 9,291
  Y Philipinau 8,682
  Ecwador 8,109
  Periw 7,944
  Colombia 7,904

Yn 2016 ganwyd 59% o drigolion y ddinas yng Nghatalwnia a 18.5% o weddill y wlad (cyfanswm o 77.5%). Ar ben hyn, daeth 22.5% o boblogaeth y ddinas o'r tu allan i Sbaen - dwbwl yr hyn ydoedd yn 2001 a 4 gwaith cymaint â 1996.[12]

O Ewrop y daw'r rhan fwyaf o ymfudwyr,: yr Eidal (26,676) a Ffrainc (13,506) ac yna gwledydd America Ladin: Bolifia, Ecwador a Colombia. Ym maestrefi gogleddol y ddinas y sefydlodd llawer o'r rhai hyn.[13]

Ceir hefyd cymuned eitha mawr o Bacistan: oddeutu 20,000, gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn ddynion.[14]

Pobl o Farcelona golygu

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Boeing, G. (2016). "Honolulu Rail Transit: International Lessons in Linking Form, Design, and Transportation". Planext 2: 28–47. http://geoffboeing.com/publications/honolulu-rail-transit-barcelona/. Adalwyd 29 Ebrill 2016.
  2. "The World According to GaWC 2010". Globalization and World Cities Study Group and Network, Prifysgol Loughborough University. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Hydref 2013. Cyrchwyd 13 Mai 2014.
  3. Emerita: Revista de Lingüística y Filología clasica 11 (1943), t.468
  4. Ptolemi, ii. 6. § 8
  5. Gudmund Schütte (1917). Ptolemy's Maps of Northern Europe: A Reconstruction of the Prototypes. H. Hagerup. t. 45.
  6. Smith, Sir William (1854). Dictionary of Greek and Roman Geography: Abacaenum-Hytanis. Boston, Massachusetts: Little, Brown and Company. t. 378.
  7. Rufus Festus Avienus Ora Maritima « et Barcilonum amoena sedes ditium. » v514 Archifwyd 12 August 2013[Date mismatch] yn y Peiriant Wayback.
  8. Gustav Parthey (1848). Itinerarium Antonini Avgvsti et Hierosolymitanvm: ex libris manvscriptis. F. Nicolai. t. 188.
  9. Petrus Wesseling; Hierocles (The Grammarian) (1735). Vetera Romanorum itineraria, /: sive Antonini Augusti Itinerarium. apud J. Wetstenium & G. Smith. t. 390.
  10. Joel Cook (1910). The Mediterranean and Its Borderlands. t. 334.
  11. "Barcelona DaTaSHeeT 2012" (PDF). Ajuntament de Barcelona. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2015-01-22. Cyrchwyd 9 Medi 2014.
  12. "Ajuntament de Barcelona - Population, household and homes statistics", adalwyd 22 Mehefin 2017.
  13. Sian Preece, The Routledge Handbook of Language and Identity (Routledge, 2016), t.513
  14. "Barcelona's Pakistani community", adalwyd 12 Mehefin 2017.