Carchar yn ninas Paris, Ffrainc, oedd y Bastille, neu yn llawn y Bastille Saint-Antoine. Daeth yn enwog pan gipiwyd y carchar gan wrthryfelwyr ar 14 Gorffennaf 1789; ystyrir Cipio'r Bastille yn ddechreuad y Chwyldro Ffrengig.

Bastille
Mathcastell, carchar, cyn-adeilad Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1370 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolWall of Charles V Edit this on Wikidata
LleoliadPlace de la Bastille, Paris Edit this on Wikidata
Sir4ydd arrondissement Paris Edit this on Wikidata
GwladBaner Ffrainc Ffrainc
Cyfesurynnau48.85333°N 2.36917°E Edit this on Wikidata
Map
Deunyddcarreg Edit this on Wikidata

Adeiladwyd y Bastille yn ystod y Rhyfel Can Mlynedd, yn wreiddiol fel porth, a drowyd wedyn yn gaer i amddiffyn rhan ddwyreiniol Paris a phalas brenhinol Hôtel Saint-Pol. Wedi diwedd y rhyfel, daeth yn garchar; Louis XIII oedd y brenin cyntaf i yrru carcharorion yno.

Chwalwyd yr adeilad wedi iddo gael ei gipio yn ystod y Chwydro. Gelwir y lleoliad yn Place de la Bastille, cartref yr Opéra Bastille.