Beic peni-ffardding
Beic cynnar oedd y beic peni-ffardding. Fe’i cyflwynwyd tua 1870, ac roedd yn boblogaidd trwy gydol yr 1870au a’r 1880au. Roedd ganddo olwyn flaen fawr gyda phedalau ond heb gadwyn na gerau, ac olwyn fach yn y cefn i gael cydbwysedd. Daeth yr enw o debygrwydd y ddwy olwyn o wahanol feintiau i ddwy ddarn arian Prydeinig ar y pryd – peni (= ceiniog) a ffardding (= chwarter ceiniog) wedi'u gosod ochr yn ochr.
Delwedd:Ordinary bicycle01.jpg, A. J. Darling, Bicycle Club, Montreal, QC, 1885.jpg, Ariel 50 inch High Wheel Bike.jpg, 00 8333 Hochrad.jpg | |
Enghraifft o'r canlynol | beic |
---|---|
Math | michaudine |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Roedd yr olwyn flaen fawr yn galluogi'r math hwn o feic gyrraedd cyflymderau uchel, ond roedd y sedd uchel yn golygu pe bai'r peiriant mewn damwain byddai'r cwymp yn debygol o fod yn beryglus i'r beiciwr.
Disodlwyd y beic peni-ffardding yn gyflym ar ddiwedd yr 1880au pan ddaeth beiciau modern, gydag olwynion o faint cyfartal, gerau cadwyn a theiars niwmatig ar gael.