Bejaid

(Ailgyfeiriad o Beja)

Grŵp ethnig nomadaidd sy'n byw yn y Sahara yw'r Bejaid (ffurf unigol: Beja).[2] Maent yn ddisgynyddion y bobloedd fu'n byw yn yr ardal ers 4000 CC, neu cyhyn hynny. Heddiw mae tua 1.9 miliwn o Fejaid yn byw mewn llwythau yn y mynyddoedd - o'r Môr Coch hyd yr afonydd Nîl ac Atbarah - ac i'r de-ddwyrain o Aswan hyd Lwyfandir Eritrea: hynny yw, yn ne-ddwyrain yr Aifft, Swdan, a gogledd-orllewin Eritrea.[1][3]

Bejaid
Dynion Beja mewn marchnad camelod.
Cyfanswm poblogaeth
1.9 miliwn[1]
Ardaloedd gyda niferoedd sylweddol
Swdan, Yr Aifft, Eritrea
Ieithoedd
Bejäeg, Tigre, Arabeg
Crefydd
Swffïaeth, Cristnogaeth

Bugeilwyr yw'r Bejaid sy'n byw ar laeth, menyn a chig a gynhyrchir gan eu gwartheg a'u camelod.[4] Maent yn byw ar wahân i'w cymdogion, ac nid yw masnach yn elfen bwysig o'u bywoliaeth. Ceir system carennydd y Bejaid yn debyg i'r Arabiaid. Maent yn olrhain eu llinach ar ochr y tad, a phennaeth y grŵp ceraint sydd ag awdurdod. Disgwylir i ddyn briodi merch ei ewythr ar ochr ei dad. Caiff bechgyn eu henwaedu ac mae merched yn derbyn clitoridectomi.[1]

Bejäeg, Tigre, ac Arabeg yw ieithoedd y Bejaid. Trodd nifer ohonynt yn Gristnogion yn y 6g, ond ers y 13g Mwslimiaid yw'r mwyafrif.[1][5]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) Beja. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 4 Mehefin 2014.
  2. Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 121 [Beja].
  3.  The Beja: the plight of a people dispossessed. Sudan Tribune.
  4.  Beja Congress. GlobalSecurity.org.
  5. The Islamization of the Beja until the 19th centuryURL